Ann Casey

Wedi fy lleoli yng Nghaerdydd, rwyf wedi gweithio yn y sector ariannol ers dros 40 mlynedd.

Dechreuais fy ngyrfa yn Nat West Bank, gan weithio drwy'r rhengoedd am 23 mlynedd. Ar ôl gadael NatWest, symudais i Fanc Datblygu Cymru, lle bûm yn cynorthwyo cwmnïau sy'n deillio o’r brifysgol fel rheolwr cronfa ar gyfer Rhaglen Deillio Cymru.

Yn dilyn hyn, symudais i'r tîm mentrau technoleg. Yna, fe wnes i ymgymryd â buddsoddiadau ecwiti mewn cwmnïau technoleg newydd, gan gymryd canran ecwiti ac eistedd ar fyrddau cwmnïau fel sylwedydd.

Ers lled-ymddeol, rwyf wedi parhau fel ymgynghorydd busnes hunangyflogedig. Roedd fy rôl yn cynnwys cynorthwyo ein cwmnïau buddsoddi, mynychu cyfarfodydd bwrdd, ac adrodd yn ôl i'r Banc Datblygu fel sylwedydd bwrdd.