Bethan Cousins

Ymunodd Bethan â’r Banc Datblygu yn 2001 i ganolbwyntio ar fuddsoddiadau ecwiti ac mae ganddi gyfoeth o brofiad o strwythuro bargeinion cyfalaf menter.

Mae Bethan yn arwain tîm o swyddogion buddsoddi sy’n darparu ecwiti i fusnesau sefydledig. Mae'n mwynhau gweithio gyda llawer o wahanol fusnesau ac yn arbennig yn mwynhau gweithio ar gyfalaf datblygu cymhleth a thrafodion olyniaeth, gan helpu i gadw busnesau sefydledig yng Nghymru.

Mae hi wedi gweithio ar draws amrywiaeth o sectorau, gan arbenigo mewn technoleg, y cyfryngau, gweithgynhyrchu a gwasanaethau busnes.

Mae Bethan wedi graddio yn y gyfraith ac ma hi'n Gymrawd o Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr.