Carol Bell

Ers cwblhau ei doethuriaeth yn 2005, mae Carol wedi datblygu amrywiaeth o ddiddordebau busnes ac elusennol.

Yn ddiwydiannwr a chyllidwr profiadol, dechreuodd Carol ar ei gyrfa yn y diwydiant olew a nwy cyn symud i fyd bancio, lle roedd ganddi swyddi uwch yn Credit Suisse First Boston, JP Morgan a Chase Manhattan Bank.

Carol yw Llywydd Dros Dro Amgueddfa Cymru a’r fenyw gyntaf i fod ar fwrdd Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Mae’n rhannu ei hamser rhwng gwasanaethu ar fyrddau corfforaethol ac elusennol yng Nghymru ac yn rhyngwladol ac ymchwil academaidd.

Yn ystod 2019, daeth yn gyfarwyddwr sefydlu Chapter Zero, rhwydwaith i alluogi cyfarwyddwyr anweithredol i ymgysylltu â risg hinsawdd ac i gyflawni targedau allyriadau carbon Sero Net.