Denise Harries

Rwy'n arbenigo mewn darparu benthyciadau rhwng £1,000 a £50,000 ar gyfer busnesau newydd a busnesau presennol yng Nghymru. Rwy’n teimlo’n frwd dros wasanaethu’r gymuned fusnes Gymreig ac wedi treulio blynyddoedd lawer yn cynorthwyo pob math o fentrau i ddechrau, tyfu a ffynnu.

Cyn ymuno â’r Banc Datblygu, rwyf wedi gweithio’n agos gyda’r sector gweithgynhyrchu fel rheolwr aelodaeth Cymru, gan glywed y materion sy’n wynebu’r sector a theilwra gwasanaethau cymorth ar gyfer aelodau Make UK. Cefnogais fusnesau o ystod eang o sectorau yn fy rôl fel cynghorydd busnes a mentor gyda Busnes Cymru, gan ddarparu cyngor a chymorth gyda’u nodau strategol ar gyfer y dyfodol.

Mae gen i brofiad blaenorol o gyllid masnachol fel rheolwr perthnasoedd busnes i gwmni cyllid corfforaethol cenedlaethol. Roedd fy nyletswyddau'n cynnwys cynorthwyo cwsmeriaid newydd a phresennol gyda'u gofynion benthyca a cheisiadau credyd i gefnogi eu cynlluniau twf.

Rwy’n edrych ymlaen at ddarparu’r adnoddau ariannol sydd eu hangen i helpu eich busnes chi.