Emily Jones

Rwy'n gweithio gyda busnesau yng Nghymru i ddarparu amrywiaeth o atebion ariannu hyblyg gan gynnwys benthyciadau, buddsoddiadau mesanin ac ecwiti sy'n amrywio o £50,000 i £5 miliwn.

Rwy'n teimlo’n angerddol dros adeiladu perthynas gyda busnesau yng Nghymru a'u helpu i gael gafael ar yr arian sydd ei angen arnynt i dyfu.

Ymunais â'r sefydliad yn 2015 fel rhan o Raglen Graddedigion Gwasanaethau Ariannol Cymru lle cwblheais leoliad gyda'r Tîm Buddsoddiadau Newydd cyn symud ymlaen i Grant Thornton ac Admiral.

Dychwelais i'r Banc Datblygu yn 2016 i weithio yn y Tîm Buddsoddiadau Menter Technoleg lle bûm yn hwyluso buddsoddiadau ecwiti'r tîm ac yn helpu i ddadansoddi a gwella prosesau busnes, cyn symud yn ôl i'r Tîm Buddsoddiadau Newydd yn 2018.

Mae gennyf MSc mewn Rheoli Gwasanaethau Ariannol a BSc mewn Seicoleg gyda Lleoliad Proffesiynol o Brifysgol Caerdydd.