Gareth Bullock OBE

Gareth yw Cadeirydd Bwrdd Banc Datblygu Cymru ac mae ganddo dros 45 mlynedd o brofiad yn y diwydiant gwasanaethau ariannol.

Ymddeolodd yn 2010 o Fwrdd Standard Chartered plc lle bu’n gyfrifol am Affrica, y Dwyrain Canol, Ewrop a’r Americas yn ogystal â chadeirio Rheoli Risg ac Asedau Arbennig. Mae ganddo hefyd brofiad sylweddol o fyrddau diwydiannol a manwerthu yn y DU ac yn China.

Mae hefyd wedi dal nifer o swyddi bwrdd, ymhlith pethau eraill, Informa PLC, Tesco PLC, Tesco Personal Financial Group Ltd, Spirax-Sarco Engineering PLC, Fleming Family & Partners Ltd, Cymdeithas Bancwyr Prydain a Global Market Group Ltd (China). Roedd hefyd yn Ymddiriedolwr y Cyngor Prydeinig o 2012 I 2018.

Mae ganddo brofiad swyddogaethol a rhyngwladol eang, ar ôl bod yn Bennaeth Bancio Corfforaethol yn Hong Kong, Prif Swyddog Gweithredol Affrica, Prif Swyddog Gwybodaeth y Grŵp a Phennaeth Strategaeth.