Gaynor Morris

Gallaf drefnu benthyciadau rhwng £1,000 a £50,000 ar gyfer ystod o anghenion busnes - p'un a ydych yn gwmni sefydledig neu'n fusnes sy'n dechrau.

Rwyf wedi gweithio gyda busnesau mawr a bach sy'n gweithredu mewn ystod o sectorau ar hyd a lled Cymru. Yn ogystal â gweithio yn y tîm micro fenthyciadau, rwyf yn rhedeg fy musnes fy hun, sydd wedi rhoi dealltwriaeth bragmatig i mi o'r heriau sy'n wynebu perchnogion busnesau a rheolwyr.

Rwy'n arbennig o gyfarwydd â'r heriau sy'n wynebu fy nghymunedau gwledig ar draws canolbarth a gorllewin Cymru, ac rwy'n falch o allu gweithio gyda chwmnïau uchelgeisiol yn yr ardaloedd hyn.

Dechreuais fy ngyrfa fel hyfforddai rheoli gyda Barclays ac mae gennyf dros 22 mlynedd o brofiad mewn cyllid busnes.