Rhodri Evans

A finnau wedi cael fy ngeni a fy magu yng ngogledd Cymru, rwy'n deall yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu cwmnïau yn yr ardal.

Rwy'n gweithio yn ein swyddfeydd yng ngogledd Cymru gydag ystod o fusnesau ar hyd a lled canolbarth a gogledd Cymru.

Mae gen i dros ddeng mlynedd o brofiad ym maes arian cyllido busnesau bach a chefndir mewn bancio masnachol ar draws amrywiaeth eang o sectorau.

Cyn ymuno â thîm Banc Datblygu Cymru, roeddwn i'n gweithio i HSBC am nifer o flynyddoedd yn rheoli portffolio o dros 200 o fusnesau ar hyd a lled y gogledd.

Rwy'n Aelod Cysylltiol o'r Sefydliad Bancio Siartredig. Rwyf hefyd wedi graddio mewn Bancio a Chyllid, a Biodechnoleg.