Roger Owen-Jones

Rwy'n gweithio gyda datblygwyr sy'n adeiladu cynlluniau preswyl, masnachol a defnydd cymysg. Rwy’n gofalu am gwsmeriaid presennol yn ogystal ag archwilio cyfleoedd newydd i fuddsoddi o Gronfeydd Eiddo Cymru.

Y rhan sy'n rhoi'r boddhad mwyaf o fy swydd yw gweld prosiect drwodd o'r dechrau i'r diwedd gan wybod ein bod yn helpu pobl i gyflawni eu nodau, gan greu cartrefi ac unedau masnachol yn ogystal â diogelu swyddi yng Nghymru.

Rwyf wedi fy lleoli yn ein swyddfeydd yn Wrecsam a Llandudno, a rwy’n fanciwr cyllid eiddo profiadol gyda dros 27 mlynedd o hanes llwyddiannus o ofalu am fusnesau BBaCh.

Cyn ymuno â’r Banc Datblygu yn 2019 bûm yn gweithio i sawl sefydliad bancio masnachol ledled Cymru mewn rolau masnachu a chyllid eiddo.