Ruby Harcombe

Mae ein hyblygrwydd yn golygu nad ydym yn rhagfarnu'r hyn y mae busnes ei angen ac fe allwn deilwra pecynnau pwrpasol sy'n gweddu i'ch gofynion.

Ymunais â'r Banc Datblygu Cymru yn 2016 ar ôl pum mlynedd ym maes bancio, bûm i'n gweithio yn fwy diweddar gydag RBS a thîm cyllid strwythuredig NatWest fel cyfarwyddwr cynorthwyol ar draws de Cymru a'r de orllewin.

Mae gen i brofiad o weithio ar ystod o gytundebau, ac mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn caffaeliadau a phryniant cwmnïau gan y rheolwyr.

Rwy'n dal diploma mewn bancio proffesiynol IFS ac rwy'n meddu ar Faglor Gwyddoniaeth mewn Rheolaeth Busnes o Brifysgol Abertawe.