Stephen Higgins

Yr wyf yn helpu datblygwyr eiddo masnachol a phreswyl ar draws de ddwyrain Cymru i wireddu amrywiaeth o brosiectau uchelgeisiol.

Rwy'n gweithio'n agos gyda datblygwyr eiddo, gan adeiladu perthnasoedd agos trwy gydol pob cam prosiectau.

Ymunais â thîm Caerdydd gyda Banc Datblygu Cymru ym mis Medi 2020, ar ôl gyrfa yn rhychwantu mwy na thri degawd gyda Grŵp Bancio Lloyds.

Cyn ymuno â'r Banc Datblygu, roeddwn yn rheolwr cangen adwerthu am nifer o flynyddoedd cyn gofalu am anghenion bancio portffolio o gwsmeriaid BBaCh.

Rwyf wedi cael profiad pellach fel gweithgynhyrchydd yn ogystal â fy mhrofiad fel arbenigwr bancio ym maes eiddo ledled de a gororau Cymru.