Fferm Bargoed

Roedd delio â’r Banc Datblygu yn hynod o syml, ac fe wnaethon nhw gyd-fynd â’n hanghenion ar unwaith.

Dywedodd Keith Jones, Cyfarwyddwr Cyllid

Yn 2010, prynodd y tîm gŵr-a-gwraig Geraint a Christine Thomas safle fferm segur yng Ngheredigion. Yn dilyn nifer o brosiectau arallgyfeirio ac ehangu, mae Fferm Bargoed bellach yn weithrediad twristiaeth sylweddol yn ogystal â fferm weithiol, gyda chynaliadwyedd amgylcheddol wedi'i integreiddio'n ddwfn i'w strategaeth fusnes.

Dyma sut mae cyllid gan Fanc Datblygu Cymru wedi cefnogi Fferm Bargoed ar ei thaith i ddod yn gwmni llwyddiannus, cynaliadwy.

Arallgyfeirio i dwristiaeth

Mae Geraint a Christine yn dod o gefndiroedd amaethyddol ac mae ganddyn nhw flynyddoedd o brofiad ym myd ffermio, felly roedden nhw’n ymwybodol iawn o’r pwysau sy’n wynebu’r diwydiant ac yn cydnabod yr angen am arallgyfeirio.

Gyda Fferm Bargoed wedi'i lleoli yng nghanol yr ardal dwristiaid yng Ngheredigion, gwelodd y cwpl ei photensial i gynhyrchu ffrydiau incwm amgen. Ar ôl prynu’r safle, fe adnewyddwyd y ffermdy, dod â’r tir yn ôl i gyflwr da, a chael caniatâd cynllunio.

Yn 2016, fe wnaethant sicrhau micro-fenthyciad o £50,000 gan Fanc Datblygu Cymru i gefnogi eu prosiect arallgyfeirio, a oedd yn cynnwys datblygu maes gwersylla a charafanau mawr ynghyd â siop fferm a bistro. Fel ffordd o ddenu ymwelwyr trwy gydol y flwyddyn, gosodwyd tybiau poeth preifat ar draws detholiad o leiniau, ac mae galw mawr amdanynt.

Ers hynny mae Fferm Bargoed wedi sicrhau dau fenthyciad dilynol. Defnyddiwyd y cyntaf o’r rhain i wella seilwaith y safle, gan gynnwys rhoi wyneb newydd ar y maes parcio, ffyrdd a llwybrau cerdded er mwyn gwella hygyrchedd ac edrychiad cyffredinol.

Roedd yr ail yn cefnogi prosiect mwyaf y cwmni hyd yma. Defnyddiodd Fferm Bargoed y benthyciad o £300,000 ochr yn ochr â chyllid grant i ariannu’r gwaith o adeiladu a chwblhau adeilad newydd, sy’n cynnwys ysgubor chwarae i blant a lleoliad digwyddiadau ar lan y llyn, gyda lle i hyd at 200 o bobl.

Dywedodd Keith Jones, Cyfarwyddwr Cyllid Fferm Bargoed: “Roedd delio â’r Banc Datblygu yn hynod o syml, ac fe wnaethon nhw gyd-fynd â’n hanghenion ar unwaith. Newidiodd Brexit dirlun cyllid grant Ewropeaidd, gan olygu bod yn rhaid inni sicrhau’r pecyn cyllid a chyflawni’r buddsoddiad o fewn terfyn amser tynn. Roedd y Banc Datblygu yn deall y brys a darparodd y benthyciad yr oedd ei angen arnom ochr yn ochr â’r grant i lansio ein menter newydd.”

Meddai Geraint: “Mae arallgyfeirio yn allweddol i adeiladu busnes llwyddiannus yn y diwydiant hwn. Bellach mae gennym arlwy eang ac rydym yn darparu profiad gwych i ymwelwyr, tra'n parhau i fod yn fferm deuluol weithredol . Mae’r Banc Datblygu wedi credu ynom o’r dechrau, ac mae eu cefnogaeth barhaus dros y blynyddoedd wedi ein galluogi i fynd o nerth i nerth.”

Ers y buddsoddiad gwreiddiol, mae Fferm Bargoed wedi sefydlu enw rhagorol, gan dderbyn llawer o ganmoliaeth fel Gwobr Busnes Gwledig 2021 am y Prosiect Arallgyfeirio Gwledig Gorau, ac mae wedi dod yn gyflogwr lleol arwyddocaol.

Gwneud cynaliadwyedd yn flaenoriaeth

Mae Geraint a Christine wedi sicrhau bod holl ddatblygiadau’r fferm yn cyd-fynd â’u hagenda werdd ehangach. Er enghraifft, rhoddodd datblygiad yr adeilad digwyddiadau gyfle iddynt osod paneli heulol / solar, ac roedd gosod wyneb newydd ar y maes parcio yn gyfle i osod pwyntiau gwefru cerbydau trydan.

O ystyried lleoliad gwledig y fferm, mae ymwelwyr wedi croesawu’r pwyntiau gwefru. Mae'r busnes hefyd wedi gosod dau eneradur sy'n gweithredu ar fiodanwydd, sy'n hawdd eu haddasu pan fydd opsiynau tanwydd mwy newydd a glanach ar gael. Mae hefyd wedi newid i dri cherbyd trydan ar y safle, dau ohonynt yn rhai dyletswydd ysgafn i gludo ymwelwyr a chyflenwadau, ac un sy’n ddyletswydd trwm i symud carafanau.

Yn ogystal â'r mesurau hyn, mae'r busnes wedi buddsoddi mewn peiriant byrnu. Mae'r holl ddeunyddiau ailgylchadwy yn cael eu byrnu gan y peiriant newydd, sy'n cywasgu'r deunyddiau ac yn lleihau eu cyfaint. Mae hyn yn arbed lle storio ac yn lleihau amlder casgliadau gwastraff, gan arwain at gostau symud gwastraff is ac ôl troed carbon llai.

Mae gan Fferm Bargoed gynlluniau pellach i fuddsoddi mewn storio batris a’r nod yw bod yn garbon niwtral erbyn diwedd 2022.

Meddai Geraint: “Mae’r newidiadau rydyn ni wedi’u cyflwyno wedi gwneud y busnes yn fwy gwydn i brisiau ynni ansefydlog ac eisoes wedi arbed swm sylweddol o arian i ni. Mae cynaliadwyedd amgylcheddol nid yn unig yn bwysig i ni yn bersonol, ond mae ein cleientiaid yn amlwg yn pryderu am y materion hyn hefyd, ac wedi croesawu’r newidiadau a wnaed i’r safle.”

Gwyliwch y fideo i gael rhagor o wybodaeth gan Geraint am ei daith fusnes.

Cefnogi busnesau i ddod yn fwy cynaliadwy

Ym Manc Datblygu Cymru, rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r argyfwng newid yn yr hinsawdd a chefnogi strategaeth sero net Llywodraeth Cymru.

Gall ein cyllid helpu busnesau yng Nghymru i fuddsoddi mewn dod yn fwy cynaliadwy a chefnogi eu trawsnewid i fod yn garbon niwtral. Gallwn hefyd ddarparu benthyciadau ac ecwiti i gwmnïau sy’n datblygu ac yn darparu cynhyrchion a gwasanaethau gwyrdd arloesol yng Nghymru.

Cefnogaeth a chysylltiadau

Rydym yn cefnogi ein cwsmeriaid i wella a lleihau eu heffaith amgylcheddol drwy weithio’n agos gyda Busnes Cymru. Mae eu cynghorwyr cynaliadwyedd arbenigol yn cynnig cymorth ar grantiau, ynni adnewyddadwy, cynaliadwyedd amgylcheddol, a'r Addewid Twf Gwyrdd.

Dolenni perthnasol