Crossfit TG

Rhiannon-Brewer
Dirprwy Reolwr Cronfa

Ers dechrau fy ngyrfa yn y diwydiant ffitrwydd, mae agor fy nghampfa fy hun wedi bod yn nod hirdymor. Mae buddsoddiad Banc Datblygu Cymru wedi fy ngalluogi i wireddu hynny.

Brad Rivers, Rheolwr Gyfarwyddwr

Mae CrossFit TG sy'n seiliedig yng Nghaerdydd yn cynnig dull gweithredu newydd i'w cwsmeriaid gyrraedd eu nodau ffitrwydd - yn amrywio o hyfforddiant cryfder i ddosbarthiadau ymarfer dwys - ac maen nhw'n annog y defnydd o dechnoleg tracio  i'w helpu i asesu eu hanghenion a chyrraedd eu nodau.

Pan roedd y rheolwr gyfarwyddwr, Brad Rivers, eisiau symud ei dechnegau a'i ddosbarthiadau o allan o gampfeydd crossfit eraill a sicrhau ei gyfleuster ei hun, trodd at Fanc Datblygu Cymru a fu o gymorth iddo godi'r arian angenrheidiol i wireddu ei freuddwyd.

Diolch i micro-fenthyciad o £20,000, gall Crossfit TG symud ymlaen fel busnes 'brics a morter'.