- Rhanbarth
-
De Cymru
- Math o gyllid
-
Ecwiti
- Angen y busnes
-
Datblygu menter technoleg
- Buddsoddiad
-
Dros £100,000
"Fe wnaeth y buddsoddiad a gawsom ein galluogi i brofi ein model busnes a sicrhau'r cleientiaid cynnar hanfodol hynny. Mae'n wych cael perthynas gyda buddsoddwr lle rydym yn teimlo bod yna gefnogaeth ar gyfer cyllid dilynol."
Fe'i sefydlwyd gan Marc Thomas, Steve Dimmick a Sam Goudie yn 2015, cwmni pleidleisio ar-lein sy'n seiliedig yng Nghaerdydd yw doopoll.
Gellir defnyddio llwyfan ar-lein doopoll ar gyfer digwyddiadau yn ogystal ag ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol ac e-byst. Gall defnyddwyr gael mynediad at arolygon syml, ar-lein - sy'n gallu cael eu haddasu at y pwrpas gan gleientiaid. Mae cyfradd ymgysylltu â’r llwyfan yn 80%, sy'n llawer uwch na meddalwedd pleidleisio traddodiadol.
Mae cwmnïau sy'n defnyddio'r platfform yn cynnwys Admiral, O2 a Banc Lloegr.
Maent wedi cael dwy rownd fuddsoddi ecwiti gennym ni. Yn gyntaf derbyniodd doopoll fuddsoddiad cychwynnol chwe ffigwr gan y Banc Datblygu Cymru a'r buddsoddwr angel Konrad Litwin ym mis Ebrill 2016. Yn 2017, cawsant fuddsoddiad ychwanegol gan y banc datblygu. Fe ddaeth y cyllid ariannu ar gyfer y ddwy fargen o Gronfa Sbarduno Technoleg Cymru.