ECR Concepts Software

Aled-Robertson
Cynorthwyydd Portffolio (Micro Fenthyciadau)

Roedd y broses o ymgeisio am y benthyciad trac cyflym wedi’i symleiddio ar-lein yn gyflym a hawdd; mae’r ffurflen gais yn hawdd iawn i’w llywio. Fe ges i  benderfyniad yn gyflym iawn ac rydw i eisoes yn gweithredu fy nghynlluniau twf busnes.

Sean Hosking, Rheolwr Gyfarwyddwr

Prynodd Sean Hosking y cwmni meddalwedd yn y man gwerthu ECR Concepts Software sy’n seiliedig yn Ne Cymru yn 2004. Mae’r cwmni'n arbenigo mewn gwasanaethau talu yn y man gwerthu ac atebion rheoli stoc. 

Mae cwsmeriaid ECR Concepts yn cynnwys Stadiwm Dinas Caerdydd, Dreigiau Casnewydd Gwent, Gerddi Botaneg Cymru a’r cadwyni Cymreig Buyology a Rabart. 

Roedd Sean eisiau buddsoddi mewn marchnata, hyfforddi staff a meddalwedd cyflwyno newydd i helpu'r cwmni i dyfu a denu hyd yn oed mwy o gwsmeriaid. Dros y ddwy flynedd nesaf, mae'n bwriadu cyflogi mwy o staff i rolau datblygu technegol a busnes. 

Ar ôl ymchwilio i'w opsiynau cyllid, gwnaeth gais am fenthyciad trac cyflym o £10,000 trwy ein gwefan. Cafodd benderfyniad o fewn dau ddiwrnod busnes.