- Rhanbarth
-
De Cymru
- Math o gyllid
-
Benthyciad
- Angen y busnes
-
Eiddo datblygu
- Maint
-
BBaCh
- Buddsoddiad
-
Dros £100,000
"Bydd y gefnogaeth a gawsom gan y banc datblygu a Santander yn ein galluogi i gynllunio gyda sicrwydd ar gyfer y dyfodol a buddsoddi gyda hyder, a bydd yn ein galluogi i sicrhau llwyddiant a swyddi i Jehu a'r busnesau Cymreig yr ydym yn gweithio â nhw."
Cafodd y datblygwyr eiddo Waterstone Homes, sy'n rhan o Grŵp Jehu, fenthyciad o £4 miliwn gennym fel rhan o fargen £5.5 miliwn gyda Santander. Bydd y benthyciad yn cael ei ddefnyddio i gefnogi'r gwaith o adeiladu cartrefi newydd yn St Nicholas ym Mro Morgannwg.
Bydd datblygiad St Nicholas Fields, a ddechreuodd yn yr hydref yn 2017, yn cynnwys 17 o gartrefi teuluol pedair a phum ystafell wely. Bydd y rhain yn gwerthu am rhwng £515,000 a £690,000. Bydd y prosiect yn cefnogi 100 o swyddi lleol.
Daeth yr arian cyllido ar gyfer y fargen o Gronfa Busnes Cymru a Chronfa Eiddo Cymru.