- Rhanbarth
-
Gorllewin Cymru
- Math o gyllid
-
Ecwiti
- Angen y busnes
-
Tyfu busnes
- Maint
-
BBaCh
- Buddsoddiad
-
Dros £1 miliwn
"Bydd cael cefnogaeth ariannol ac arbenigedd buddsoddwr profiadol yn ein galluogi i ddod â gwasanaeth trawsnewidiol i'r diwydiant teiars."
Motokiki yw'r wefan cymharu teiars gwirioneddol annibynnol cyntaf ym Mhrydain, a gydsefydlwyd gan Reolwr Gyfarwyddwr Confused.com Debra Williams.
Mae'r wefan, www.motokiki.com, wedi cael ei chynllunio i fod yn ffordd gyflym a chyfleus i gwsmeriaid gael mynediad at wybodaeth fanwl gywir am yr amrywiaeth o deiars sydd fwyaf addas i'w cerbyd. Y cwbl sy'n rhaid i ddefnyddwyr ei wneud yw mewnbynnu rhif cofrestru cerbyd a chod post, a byddant yn gallu cymharu ystod eang o deiars o'r radd flaenaf yn syth am y prisiau gorau.
Buddsoddodd Banc Datblygu Cymru a Maven Capital Partners ("Maven") £1.5 miliwn i gefnogi’r gwaith o gyflwyno'r llwyfan cymharu prisiau, datblygu partneriaid strategol newydd a helpu i dyfu'r brand.
Darllenwch y datganiad i'r wasg am ragor o wybodaeth.