- Rhanbarth
-
Gogledd Cymru
- Math o gyllid
-
Ecwiti
- Angen y busnes
-
Dechrau busnes
- Maint
-
BBaCh
- Buddsoddiad
-
Dros £100,000
Mae'r help a gefais gan Angylion Buddsoddi Cymru wedi bod yn anhygoel ac ni fyddwn i yn y sefyllfa hon nawr hebddo.
Mae Toddle, cwmni sydd newydd ddechrau yn Wrecsam, yn gwneud cynhyrchion gofal croen sy'n gyfeillgar i blant ac yn foesegol. Mae'r rhain yn cynnwys eli gwefus sy'n gweithio hyd yn oed os yw'r baban yn glafoerio, eli haul a gwynt a gynlluniwyd i amddiffyn bochau babanod, a gel llaw probiotig.
Lansiodd Hannah, perchennog a chreawdwr Toddle, y busnes tra'r oedd hi'n byw yn Swydd Buckingham. Symudodd i Ogledd Cymru ac fe wnaeth Angylion Buddsoddi Cymru ei helpu i sicrhau buddsoddiad angylion busnes gwerth £150,000. Derbyniodd £50,000 hefyd trwy ennill cystadleuaeth Pitsio i Gymru.
Bydd y buddsoddiad yn cael ei ddefnyddio i lansio'r cynhyrchion, talu am weithgareddau marchnata i baratoi ar gyfer y lansiad a'r flwyddyn masnachu gyntaf ynghyd â gweithgareddau gweithgynhyrchu ac allforio
Darllenwch y datganiad i'r wasg yn ei gyfanrwydd.