Mae'r help a gefais gan Angylion Buddsoddi Cymru wedi bod yn anhygoel ac ni fyddwn i yn y sefyllfa hon nawr hebddo.
Hannah Saunders, Perchennog
Mae Toddle Born Wild, sy’n fusnes gofal croen newydd wedi’i leoli yn Wrecsam, yn canolbwyntio ar gynhyrchu cynhyrchion gofal croen sy’n gyfeillgar i blant ac o ffynonellau moesegol gan gynnwys balm gwefus gwrth ddriblo i fabanod, balm haul a gwynt wedi’i gynllunio i amddiffyn bochau babanod, a gel llaw probiotig.
Mae Hannah Saunders a'i gŵr yn ddau sy’n teimlo’n frwd dros deithio a chwaraeon antur. Fodd bynnag, pan ddaethant yn rhieni, fe wnaethant ddarganfod nad oedd unrhyw gynhyrchion gofal croen y gallent eu cymryd ar eu gwibdeithiau a oedd yn addas ar gyfer eu plant ifanc.
Gan sylwi ar fwlch yn y farchnad, gadawodd Hannah yr Awyrlu yn 2017 a threuliodd y 18 mis nesaf yn gwneud ymchwil marchnad a datblygu cynnyrch y cwmni - gan gymysgu cynhwysion fel olew jojoba a chŵyr gwenyn yn ei chegin, ac felly y ganed ei hystod o gynnyrch gofal croen fegan.
Yn ddiweddarach bu'n gweithio gyda biocemegwyr a chynhyrchwyr ym Mhrydain ac America i berffeithio'r cynhyrchion; penderfynodd ddod o hyd i'r cynhwysion yn foesegol gan weithgynhyrchwyr Prydeinig yn hytrach na dewisiadau rhatach yn Asia i sicrhau bod modd olrhain pob cynhwysyn. Mae'r holl gynhyrchion yn cael eu gwneud yn y DU i leihau eu hôl troed carbon, ac maent wedi'u cymeradwyo gan Peta fel fegan a heb greulondeb.
“Lle y gallwn, rydym yn defnyddio tiwbiau cansen siwgr sy'n fioddiraddadwy. Rydyn ni wedi lleihau’r pecyn i lawr i'r lleiafswm y mae gennym ni hawl i’w wneud. Yr hyn sydd yna yw cardfwrdd sy’n 100% ailgylchadwy,” meddai Hannah, sy’n 36 mlwydd oed.
“Ar hyn o bryd mae’r rhan fwyaf o geliau llaw sydd ar gael yn lladd pob bacteria yn ddiwahân; mae ein cynnyrch yn lladd y bacteria drwg ac yn cefnogi'r bacteria da. Mae angen y bacteria da arnom i helpu gyda'n system imiwnedd ac iechyd cyffredinol."
Gyda'r nod o apelio at rieni, daw'r cynnyrch gyda chortynnau a chlasbiau fel y gellir eu cario o gwmpas yn hawdd ac yn ddiogel.
“Gallwch chi eu defnyddio ag un llaw oherwydd, fel rhiant, efallai eich bod chi'n delio â phlentyn aflonydd a simsan, ac wedyn tydi’r cynnyrch ddim yn mynd ar goll, maen nhw wrth law bob amser,” meddai Hannah.
Er bod Hannah a’i gŵr bellach yn byw yn Wrecsam, cafodd y busnes ei lansio tra’r oedden nhw’n byw yn Swydd Buckingham. Mae hi'n cyfaddef bod ganddi amheuon ar y dechrau ynghylch symud i ogledd Cymru.
“Roeddwn i’n meddwl y byddai’n ofnadwy symud i fyny yma, i ffwrdd o Lundain lle roeddwn i’n meddwl y byddai’n well dechrau busnes. Allwn i ddim bod yn fwy anghywir oherwydd mae’r cymorth gan Angylion Buddsoddi Cymru wedi bod yn aruthrol ac ni fyddwn lle rydw i nawr hebddo,” meddai’r fam i ddau o blant.
Buddsoddiad Ecwiti Angylion Buddsoddi Cymru
Lansiwyd Toddle Born Wild yn yr haf 2021, yn dilyn buddsoddiad ecwiti o £200,000. Daeth tua £150,000 drwy Angylion Buddsoddi Cymru a daeth y £50,000 oedd yn weddill ar ôl ennill 'Cyflwyniad y Dydd / Pitch of the Day' yn Pitch It Wales, cystadleuaeth sy’n debyg i arddull Dragons' Den a gynhelir mewn partneriaeth rhwng Inspire Wales a BeTheSpark.
Defnyddiwyd y buddsoddiad i greu tair swydd newydd, yn ogystal ag ariannu gweithgareddau marchnata i baratoi ar gyfer ei lansio a’r flwyddyn gyntaf o fasnachu, ochr yn ochr â gweithgareddau gweithgynhyrchu ac allforio.
Dywedodd Steve Holt, Cyfarwyddwr Angylion Buddsoddi Cymru: “Mae Angylion Buddsoddi Cymru yn darparu gwasanaeth ar gyfer Cymru gyfan, gan baru cyfleoedd busnes o safon â’r buddsoddwr cywir trwy ein platfform buddsoddi digidol. Mae hyn yn arddangos ein bargeinion arfaethedig i'n holl fuddsoddwyr mewn amser real.
“Mae tîm Angylion Buddsoddi Cymru yn cydweithio ar draws y wlad i sicrhau bod y broses baru yn cynhyrchu canlyniadau cadarnhaol ar draws y rhanbarthau o dde i ogledd Cymru, ac mae bargen Toddle Born Wild yn enghraifft wych o ba mor effeithiol yw hyn.
“Rwy’n falch iawn ein bod wedi helpu i ysgogi grŵp mor brofiadol a gwybodus o angylion a dymunwn bob llwyddiant i Toddle Born Wild yn y dyfodol.”
Mynd i mewn i'r ffau
Ym mis Mawrth 2022, ymddangosodd Hannah ar Dragons' Den ar BBC1 er mwyn ceisio sicrhau £60,000 ar gyfer cyfran o bump y cant yn ei chwmni.
Am ei bod wedi rhoi cyflwyniad gwerth chweil, ac wedi llwyddo i amlygu ei nod i chwyldroi gofal croen plant, categori a ddominyddir gan blastig ac arferion anghynaliadwy - aeth Hannah ymlaen i dderbyn tri chynnig.
Gwnaeth Steven Bartlett gynnig o £60,000 iddi, ond am gyfran o 20%, cynigiodd Deborah Meaden yr holl arian am gyfran o 15% a chynigiodd Sara Davies yr un swm am 12%.
Gyda Steven yn awyddus i ddefnyddio ei arbenigedd marchnata digidol i helpu i dyfu Toddle Born Wild i frand cynnwys cyfryngau, roedd yn awyddus i ymuno â Deborah i weithio gyda Hannah. Yn dilyn llawer o drafod, derbyniodd Hannah gynnig ar y cyd gan y pâr a oedd yn cyfateb i fuddsoddiad o £60,000 am 13% o'r cwmni.
Dywedodd Deborah: “Roedd cyflwyniad Hannah yn drawiadol iawn ond gyda’i hystod cynnyrch yn eistedd o fewn marchnad gystadleuol iawn, yr hyn a enillodd i mi mewn gwirionedd oedd eglurder ei gweledigaeth ar safle’r cynnyrch – yn union pwy fyddai’n ei brynu a pham.
“Roedd yn olwg ffres iawn ar farchnad sefydledig, ac yn un a oedd yn bwydo’n uniongyrchol i alluogi plant i gymryd rhan a mwynhau awyr agored iach - yn enwedig ar ôl y cyfyngiadau’r clo.”
Yn dilyn ymlaen o'r sioe mae Toddle Born Wild wedi mynd o nerth i nerth. Mae'r tîm wedi ehangu i fwy na saith o weithwyr ac mae ei gynnyrch bellach yn cael ei stocio gan frandiau fel Amazon, Holland & Barrett, ar fwrdd Virgin Atlantic, Ocado, WH Smiths travel a siopau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mi fydd Toddle Born Wild yn lansio yn UDA yn ddiweddarach eleni, gyda chyllid pellach gan yr Adran Masnach Ryngwladol. Maent yn parhau i ehangu eu cwmpas sydd bellach yn cynnwys amddiffyniad rhag yr haul yn ogystal â'r eli gwefus a boch, a’r gel llaw.