Voice Factory

Jo-Thomas
Dirprwy Reolwr Cronfa

Rydym wedi tyfu'n sylweddol dros y tair blynedd ddiwethaf. Mae'r buddsoddiad gan y Banc Datblygu Cymru wedi ein galluogi i gyflawni twf rhyngwladol yn yr Unol Daleithiau ac Asia.

Paul Harrison, Rheolwr Gyfarwyddwr

Ac yntau wedi cael ei sefydlu yn 2009, mae thevoicefactory Limited yn ddarparwr cyfathrebu ar gwmwl yng Nghaerdydd.

Gyda mwy na 65,000 o ddefnyddwyr mewn 21 o wledydd, mae thevoicefactory yn darparu amrywiaeth o gynhyrchion cyfathrebu integredig i'r sectorau lletygarwch, hamdden, modurol a chyfreithiol - hwy yw'r unig gwmni cyfathrebu yn y DG i gynnig atebion cyfathrebu label gwyn i'r farchnad.

Fe wnaeth buddsoddiad o £500,000 gan y Banc Datblygu Cymru yn 2017 helpu i ariannu rhaglen ehangu ryngwladol uchelgeisiol, gan gynnwys agor swyddfeydd yn Florida a Chalifornia. Mae Evolve IP®, The Cloud Strategy Company™, bellach wedi cwblhau caffaeliad o thevoicefactory gyda'r nod o ehangu i farchnadoedd byd-eang newydd.

Daeth arian ar gyfer y fargen o Gronfa Busnes Cymru, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a chronfa a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.