Working Word

Leanna-Davies
Rheolwr Datblygu Portffolio

Roedd angen cyllid arnom i helpu i ariannu pryniant y cyfranddaliwr mwyafrifol. Fe wnaeth Banc Datblygu Cymru ein helpu ni gyda benthyciad i ran ariannu'r fargen. Mae'n teimlo'n dda ein bod o'r diwedd yn gweithredu ein cynllun pum mlynedd a bod gennym berchnogaeth cyfan gwbl dros bethau.

Caroline Holmes

Working Word yw'r asiantaeth Cysylltiadau Cyhoeddus (CC), ddigidol a’r brand annibynnol mwyaf yng Nghymru; gyda rhestr o gleientiaid sy'n cynnwys Cymdeithas Adeiladu'r Principality, Liberty House Group, Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru, Capital Law, a BAFTA Cymru.

Fe'i sefydlwyd ym 1999, a heddiw mae'r cwmni'n cyflogi tîm o 17 o staff ac mae'n cael ei arwain gan Caroline Holmes a Dan Tyte, a oedd fel rhan berchnogion am brynu cyfran y trydydd cyfranddeilydd. Diolch i fenthyciad chwe ffigwr gennym ni, maen nhw wedi llwyddo i gyflawni eu nod ac erbyn hyn maent yn weithgar yn tyfu'r busnes.

Er nad yw eu rolau o ddydd i ddydd wedi newid mewn ffordd ddramatig, mae Caroline a Dan yn teimlo'n hyderus ynghylch eu cynlluniau tymor hir ac yn gweithio tuag at eu gweledigaeth o ddod yn un o brif asiantaethau CC y DU.

Be' nesaf?

Cysylltwch gyda’n tîm buddsoddi ymroddedig i ddarganfod sut y gallem gefnogi'ch busnes neu os ydych chi'n meddwl eich bod yn barod i gael cyllid, gwnewch gais heddiw.

Cysylltwch â'n tîm Ymgeisio nawr