Y Banc Datblygu a’n helpodd yn nyddiau cynnar sefydlu’r busnes a nawr diolch i’w cefnogaeth nhw y gallwn edrych i’r dyfodol gan wybod ein bod ni i gyd yn rhan o deulu Vantastec.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gareth Edwards

Mae gennym flynyddoedd o brofiad yn strwythuro cyllid ar gyfer olyniaeth busnes.

Sut y gallwn ni helpu

Pryniant rheoli neu PRh yw pan fydd y tîm rheoli presennol neu'r gweithlu yn prynu busnes gan eu perchnogion.

I’r gwerthwr gall hyn olygu bod y broses yn cael ei chwblhau'n gynt, gan roi’r cyfle i dimau PRh fanteisio ar eu gwybodaeth am y busnes ac fel arfer hwn yw'r math o olyniaeth sy'n tarfu leiaf ar bethau.

  • Mae gennym flynyddoedd o brofiad o strwythuro PRh
  • Rydym ni’n deall y 'grefft o weld y posibiliadau’ wrth ystyried opsiynau ariannu
  • Benthyciadau hyblyg ac ecwiti i ffitio eich anghenion chi

Os yw tîm rheoli allanol yn prynu i mewn i gwmni targed fe'i gelwir yn bryniant i mewn gan y rheolwyr neu RhPM.

Yn aml mae hyn yn ffordd arall i reolwyr profiadol neu dimau rheoli ddod yn fudd-ddeiliad mwyafrifol y busnes.

  • Rydym ni’n deall nad oes yr un fargen yr un fath ac rydym yn teilwrio’r cyllid i ffitio hynny
  • Mae gennym gyfoeth o brofiad o helpu cyfarwyddwyr rheoli newydd i brynu i mewn i fusnes
  • Fe allwn ni gefnogi trafodion ystyriaeth ohiriedig

 

Pryniant i Mewn - Rheolwyr yn Prynu’r Cwmni a adwaenir fel PM-RhPC yw pan fydd y tîm rheoli presennol yn prynu'r busnes ochr yn ochr â buddsoddwyr allanol, sydd yn y pen draw yn ymuno â hwy fel perchnogion ac yn aml yn eistedd ar y tîm rheoli newydd. 

Mae'r mathau hyn o drafodion yn ddelfrydol ar gyfer cwmnïau sydd ā rheolaeth weithredol gref, ond mae yna ddiffyg arweinyddiaeth wrth i'r perchennog ymadael.
 

  • Mae gennym brofiad o strwythuro cyllid pan fo yna gymysgedd o reolwyr mewnol ac allano
  • Fe allwn ni siarad yn gyfrinachol gyda chwmnïau a’u timau rheoli ynghylch eu hopsiynau ariannu 

Mae Pryniant o’r Cwmni gan y Rheolwyr a Ysgogi’r gan y Gwerthwr (a gychwynnir gan y Gwerthwr weithiau) hefyd yn cael ei alw’n PCRhYG, mae hyn yn golygu bod perchennog y busnes eisiau gwerthu ei gwmni i’r tîm rheoli presennol. 

Gall olygu bod budd i berchennog y cwmni wrth iddynt ysgogi'r fargen ar ei delerau o neu hi ac fe sicrheir bod arian parod yn cael ei ryddhau yn gynt.

  • Mae gennym brofiad o strwythuro trafodion PCRhYG dros £1 miliwn
  • Fe allwn ni helpu timau rheoli i ddeall eu hopsiynau ariannu

 

Caffael yw pryniant un busnes neu gwmni gan gwmni arall neu endid busnes arall. Gall fod yn gyfrwng i ganiatáu i fentrau dyfu, crebachu, a newid natur eu busnes neu eu sefyllfa gystadleuol.
 

  • Rydym ni wedi cefnogi ystod o gaffaeliadau ar raddfa fach a mawr 
  • Fe allwn ni ddarparu benthyciadau ac ecwiti hyblyg i gefnogi trafodiad

All-bryniant gweithwyr yw pan fydd gweithwyr cwmni'n prynu'r busnes gan ei berchnogion.

Gall fod yn ffordd o gadw swyddi a sicrhau dyfodol y cwmni, gyda gweithlu yn meddu ar y cymhelliant i'w symud ymlaen. 

  • Rydym yn darparu benthyciadau hyblyg ac ecwiti i gefnogi all-bryniant gweithwyr
  • Gallwn helpu gweithwyr i ddeall eu dewisiadau o ran cyllido
  • I gael cymorth ac arweiniad pellach ar gyfleoedd Perchnogaeth Gweithwyr gallwch ymweld â Cwmpas a’u hadnodd pwrpasol yn Perchnogaeth Gweithwyr Cymru

      

Ydych chi’n bwriadu gwerthu cwmni?

P'un a ydych chi'n berchen ar eich busnes sy'n bwriadu caffael cystadleuydd neu'n entrepreneur sy'n bwriadu prynu eu busnes nesaf, gallwn ddarparu benthyciadau, ecwiti neu gyfuniad o’r ddau i roi’r cyfalaf y mae arnoch ei angen.

Parod i werthu?

Os ydych chi'n bwriadu gwerthu, ydych chi wedi ystyried eich tîm rheoli? Fe allwn ni gefnogi rheolwyr yn prynu'r cwmni a phryniannau rheolaeth a ysgogi'r gan y perchennog gyda â phecynnau ariannol ar gyfer eich gofynion chi.

 

Gwybodaeth pwysig

  • Benthyciadau ac ecwiti ar gael.
  • Mae'r llog wedi'i bennu ar gyfer cyfnod y benthyciadau ac mae'n seiliedig ar amgylchiadau unigol pob busnes.
  • Cynllun busnes strwythuredig yn esbonio sut y byddwch yn rhedeg y busnes ac yn ad-dalu cyllid
  • Pan fyddwch yn ysgrifennu eich cynllun, efallai y byddwch eisiau ystyried defnyddio cyfrifydd arbenigol neu gynghorydd cyllid corfforaethol.
  • Bydd angen manylion ariannol, datganiadau a rhagolygon er mwyn symud ymlaen â’ch cais

Grymuso timau rheoli

Yn aml, mae timau rheoli yn cam-dybio na allant fforddio prynu perchennog busnes pan fydd y cyfle yn codi. Fodd bynnag, gallwn gefnogi pryniant y busnes gan y rheolwyr a'r rheolwyr yn prynu i mewn i'r busnes gyda benthyciadau ac ecwiti i dalu am y mwyafrif helaeth o'r cyllid, felly dim ond buddsoddiad bach sydd ei angen.

Gwybodaeth pwysig

  • Benthyciadau ac ecwiti ar gael.
  • Mae'r llog wedi'i bennu ar gyfer cyfnod y benthyciadau ac mae'n seiliedig ar amgylchiadau unigol pob busnes.
  • Cynllun busnes strwythuredig yn esbonio sut y byddwch yn rhedeg y busnes ac yn ad-dalu cyllid
  • Pan fyddwch yn ysgrifennu eich cynllun, efallai y byddwch eisiau ystyried defnyddio cyfrifydd arbenigol neu gynghorydd cyllid corfforaethol.
  • Bydd angen manylion ariannol, datganiadau a rhagolygon er mwyn symud ymlaen â’ch cais

Perchnogaeth gweithwyr yng Nghymru 

Mae nifer y busnesau sy’n eiddo i’r gweithwyr yng Nghymru yn cynyddu. Mae strwythurau pwrpasol fel Ymddiriedolaethau Perchnogaeth Gweithwyr yn helpu gweithwyr i brynu busnes gan ei berchennog. Yn nodweddiadol mae hyn yn golygu bod 51% neu fwy o'r gweithwyr yn dal 25% neu fwy o fuddiant y busnes. 

Rydym wedi gweithio gyda nifer o dimau i gefnogi allbryniannau gweithwyr. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda Cwmpas a’u rhaglen bwrpasol i gefnogi Perchnogaeth Gweithwyr Cymru

Gwybodaeth pwysig

  • Benthyciadau ac ecwiti ar gael.
  • Mae'r llog wedi'i bennu ar gyfer cyfnod y benthyciadau ac mae'n seiliedig ar amgylchiadau unigol pob busnes.
  • Cynllun busnes strwythuredig yn esbonio sut y byddwch yn rhedeg y busnes ac yn ad-dalu cyllid
  • Pan fyddwch yn ysgrifennu eich cynllun, efallai y byddwch eisiau ystyried defnyddio cyfrifydd arbenigol neu gynghorydd cyllid corfforaethol.
  • Bydd angen manylion ariannol, datganiadau a rhagolygon er mwyn symud ymlaen â’ch cais

Helpu busnesau fel eich un chi

Be' nesaf?

Ymholwch trwy ddefnyddio ein ffurflenni cysylltu â ni.

Cysylltu â ni