Casnewydd: Ydych chi'n bwriadu tyfu eich busnes?

Rydym yn cynnal cymhorthfa galw heibio 'Tyfu eich busnes' ar y 31ain o Ionawr 2018 yn Felodrom Cenedlaethol Cymru, Casnewydd.

Dewch i siarad â Tara Lee-Fox am eich busnes a'ch cynlluniau.

Gall busnesau Casnewydd wneud cais am fenthyciadau o £1,000 a mwy gan Fanc Datblygu Cymru. Gellir defnyddio ein benthyciadau i ddechrau neu ehangu busnes, i brynu offer neu stoc newydd, neu hyd yn oed i brynu busnes arall.

Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch e-bost at emily.wood@bancdatblygu.cymru i archebu slot 30 munud. Fel arall, ffoniwch hi ar 029 2033 8110.

Pwy sy'n dod

Tara Lee-Fox
Swyddog Buddsoddi