Cydlynydd marchnata digidol

Rydyn ni'n bwriadu recriwtio cydlynydd marchnata digidol a fydd yn seiliedig yn Nghaerdydd. 

Pwrpas y Swydd

Byddwch yn ymuno â thîm marchnata prysur gyda chyfleoedd i dyfu a datblygu yn y rôl. Byddwch yn gweithio'n uniongyrchol o dan Reolwr Marchnata'r Grŵp ac yn rhan o dîm digidol sy'n gyfrifol am reoli cynnwys gwefan, marchnata e-bost a mewnrwyd y cwmni yn ogystal â chefnogi anghenion gweithredol yr adran yn ôl yr angen.

Yn ddelfrydol, byddwch wedi gweithio mewn swydd ddigidol cyn i chi edrych am eich rôl nesaf i ehangu eich profiad marchnata a datblygu eich sgiliau digidol ymhellach.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau:

Cefnogi'r gwaith o reoli cynnwys gwefan

  • Creu a llwytho cynnwys yn y Gymraeg a'r Saesneg i wefannau'r cwmni yn unol â'r cynllun rheoli cynnwys.
  • Darparu cefnogaeth ar gyfer prosiectau datblygu ar y we yn y dyfodol yn ôl yr angen
  • Defnyddio Google Analytics i gasglu, dadansoddi ac adrodd ar ddadansoddiadau gwefan

Cefnogi mewnrwyd y cwmni     

  • Creu a llwytho cynnwys ar fewnrwyd y cwmni gan weithio gyda'r adrannau Adnoddau Dynol, Technoleg Gwybodaeth ac adrannau eraill.
  • Darparu cefnogaeth ar gyfer prosiectau datblygu'r fewnrwyd yn y dyfodol yn ôl yr angen.

Cefnogi marchnata trwy e-bost

  • Adeiladu e-ymgyrchoedd rheolaidd gan ddefnyddio offer marchnata e-bost trydydd parti (fe ddarperir hyfforddiant).
  • Creu a rhedeg ymgyrchoedd glanhau ar gyfer y gronfa ddata RhPC
  • Cefnogi'r broses gofrestru e-bost gan gynnwys diweddaru RhPC y cwmni

Marchnata ad hoc

  • Codi unrhyw orchmynion prynu ar gyfer gweithgarwch digidol - hysbysebu, datblygu a Gwaith cynnal a chadw perhtnasol i'r we.
  • Ymgymryd ag unrhyw dasg arall a ddiffinnir gan Reolwr Marchnata'r Grŵp i ddiwallu anghenion gweithredol yr adran

Gwybodaeth, sgiliau, galluoedd a phrofiad

Hanfodol

  • Person angerddol ynghylch popeth digidol gydag ymwybyddiaeth dda o'r dirwedd ddigidol gyfredol.
  • Gwybodaeth a phrofiad marchnata digidol.
  • Gwybodaeth a phrofiad o hanfodion dadansoddiadau gwe.
  • Gwybodaeth a phrofiad o ddefnyddio gwahanol gymwyseddau / pecynnau TG, gan gynnwys RhPC, systemau rheoli cynnwys (Drupal yn ddelfrydol) ac MS Office
  • Chwaraewr tîm da sy'n gallu ymgymryd â gwahanol rolau pan fo hynny'n briodol ac yn meddu ar brofiad o adeiladu perthynas gyda thimau eraill
  • Sgiliau trefnu cryf a sylw craff am fanylion.
  • Sgiliau datrys problemau, dylanwadu a negodi cryf.
  • Sgiliau gwrando a chyfathrebu ysgrifenedig ac ar lafar ardderchog
  • Agwedd benderfynol a gyriant personol i gyflawni amcanion gyda chanlyniadau o safon uchel.

Dymunol

  • Profiad o ysgrifennu cynnwys ar-lein (tudalennau gwefan, blogiau)
  • Gwybodaeth ganolraddol o ddadansoddiadau gwe ac offer dadansoddi'r we (tracio / olrhain, cwcis, ac ati)
  • Profiad yn y sector ariannol
  • Dealltwriaeth dda o rôl Banc Datblygu Cymru yn economi Cymru, yr economi, diwydiant a masnach yng Nghymru yn ogystal ag anghenion buddsoddi busnesau bach a chanolig
  • Yr Iaith Gymraeg
  • Cymhwyster marchnata cydnabyddedig (yn ddelfrydol gradd neu ddiplomâu CIM / IDM)
  • Trwydded yrru lawn

Y dyddiad cau yw'r 20ain o Mehefin.

I wneud cais anfonwch eich ffurflen gais at: recriwtio@bancdatblygu.cymru

Ffurflen gais