Cyfrifydd technegol y Grŵp

Rydyn ni'n bwriadu recriwtio cyfrifydd technegol y Grŵp a fydd yn seiliedig yn Caerdydd.

Pwrpas y swydd

Yn seiliedig o fewn Adran Gyllid Grŵp Banc Datblygu Cymru (BDC), diben y rôl hon yw bod yn arweinydd technegol ym mhob mater sydd a wnelo cyfrifo ac i gynorthwyo'r rheolwyr ariannol yn y gwaith o redeg swyddogaeth cyfrifyddu ariannol BDC.

 

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau

  • Paratoi datganiadau ariannol blynyddol ar gyfer is-gwmnïau o fewn Grŵp BDC.
  • Paratoi datganiadau ariannol blynyddol ar gyfer Partneriaethau Cyfyngedig nad ydynt wedi'u cyfuno gyda datganiadau ariannol Grŵp BDC.
  • Cysylltu â Chyfrifydd FW Capital ynghylch paratoi datganiadau ariannol blynyddol ar gyfer yr is-gwmnïau hynny sy'n rheoli arian y tu allan i Gymru e.e. FW Capital Ltd.
  • Cynorthwyo'r Rheolydd Ariannol i baratoi y Gwaith cyfuno a chynhyrchu datganiadau ariannol blynyddol Grŵp BDC.
  • Cynhyrchu adroddiadau a datgeliadau gwerth teg diwedd y flwyddyn ar fuddsoddiadau ecwiti mewn cydweithrediad â rheolwyr buddsoddi.
  • Adnabod materion cyfrifyddu, archwilio a threthu newydd yn rhagweithiol trwy gysylltiad agos ag ymgynghorwyr a briffio'r tîm cyllid am eu heffeithiau yn rheolaidd.
  • Cynhyrchu amserlenni a datgeliadau diwedd blwyddyn ar gyfer y llyfr benthyciadau o dan Safon Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) 9.
  • Gweithredu safonau’r Safon Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) newydd (ee 15 a 16 ac ati) i'r Grŵp a datganiadau ariannol is-gwmnïau.
  • Adolygu cyfrifon rheoli misol yn unol â'r fformat a'r amserlen y cytunwyd arnynt.
  • Adolygu trefniadau cysoni cyfrifon rheoli allweddol ddiwedd mis
  • Rhoi adborth ar y cyfrifon rheoli a rhoi cefnogaeth i aelodau'r tîm sy'n rhan o'u paratoi.
  • Cynghori rheolwyr cyllideb ar fonitro eu gwariant a'u hymrwymiadau yn erbyn y gyllideb.
  • Adolygu ac awdurdodi taliadau banc.
  • Adolygu'r ffurflen TAW chwarterol.
  • Arwain ac ysgogi adroddiadau uniongyrchol i sicrhau eu bod yn gwneud y gorau o'u potensial. Bydd hyn yn cynnwys gosod a monitro amcanion o fewn cynllun adolygu perfformiad (CAP) BDC
  • Cynorthwyo i reoli'r gweithdrefnau cyfrifyddu a rheoli ariannol sy'n diogelu asedau'r cwmni.
  • Nodi meysydd gwendid yn rhagweithiol a gweithio ar draws adrannau i nodi / gweithredu gwelliannau.
  • Cynorthwyo'r Rheolydd Ariannol a'r Rheolydd Ariannol (Prosiectau) i ddatblygu a gwella'r systemau cyfrifo a'r rhai cysylltiedig yn unol ag arfer gorau.
  • Cydweithredu gydag archwilwyr mewnol ac allanol, ymgynghorwyr a swyddogion Llywodraeth Cymru fel bo'r angen.
  • Unrhyw dasg arall y gall y Rheolydd Ariannol ei nodi i ddiwallu anghenion gweithredol BDC.

Gwybodaeth, Sgiliau, Galluoedd a Phrofiad

Hanfodol

  • Deilydd cymhwyster cyfrifyddu cydnabyddedig yn y DU gyda phrofiad ôl-gymhwysol o 2 flynedd o leiaf mewn amgylchedd gwasanaethau ariannol.
  • Profiad o reoli llinell mewn adran Gyllid.
  • Gwybodaeth gyfredol am ddatblygiadau cyfrifyddu technegol gan gynnwys Safon Adrodd Ariannol Rhyngwladol IFRS9 a chyfrifeg gwerth teg.
  • Profiad o baratoi datganiadau ariannol o dan Safon Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) i gynnwys Safon Adrodd Ariannol 101 a Safon Adrodd Ariannol 102.
  • Profiad o gyfrifeg cyfuno.
  • Sgiliau cyfathrebu ardderchog ar lafar ac yn ysgrifenedig.
  • Yn fedrus mewn TG gyda gallu lefel uwch o ddefnyddio cyfres o gynhyrchion Microsoft Office.
  • Y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm.

Dymunol 

  • Y gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Ymwybyddiaeth o Grŵp Banc Datblygu Cymru.
  • Yn gyfarwydd â SAGE 200 neu becynnau cyfrifyddu tebyg.
  • Yn gyfarwydd â systemau rheoli Portffolio.
  • Yn gyfarwydd â chyfarpar rheoli data Power BI ac A La Carte.
  • Yn meddu ar hunan gymhelliant ac ymagwedd hyblyg tuag at waith.

I wneud cais anfonwch eich ffurflen gais at: recriwtio@bancdatblygu.cymru

Ffurflen gais