Derbynnydd blaen y tŷ

Rydyn ni'n bwriadu recriwtio derbynnydd blaen y tŷ a fydd yn seiliedig yn Caerdydd. 

Pwrpas y swydd

Darparu gwasanaeth derbyn a switsfwrdd proffesiynol ac effeithlon dwyieithog i Fanc Datblygu Cymru a'i ymwelwyr.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

  • Sicrhau bod gwesteion ac ymwelwyr i swyddfa Caerdydd yn cael eu cyfarch yn broffesiynol gan gynnig lefel uchel o wasanaeth cwsmeriaid yng nghweithrediadau blaen y tŷ.
  • Arwyddo ymwelwyr a chontractwyr i mewn yn unol â gofynion iechyd a diogelwch a diogelwch cyffredinol; ymgysylltu â landlordiaid yr adeilad lle bo angen er mwyn sicrhau eu bod yn cael mynediad esmwyth i'r Banc Datblygu.
  • Cydlynu archebion ystafelloedd cyfarfod gan ddefnyddio'r feddalwedd archebu ystafelloedd a chefnogi'r busnes trwy ddefnyddio'r feddalwedd.
  • Paratoi ystafelloedd cyfarfodydd gan gynnwys symud offer swyddfa.
  • Trefnu lluniaeth ac archebu arlwyaeth yn unol â gofynion.
  • Darparu gwasanaeth switsfwrdd a negeseuon effeithiol ar gyfer y Banc Datblygu lle mae cwsmeriaid yn ganolbwynt i’r gwasanaeth.
  • Sicrhau bod stociau digonol yn cael eu harchebu a bod pecynnau cyflenwadau a thechnegol yn cael eu gwirio'n rheolaidd.
  • Sicrhau bod y dderbynfa yn gyffredinol, yr ystafelloedd cyfarfod a'r gegin yn daclus.
  • Darparu cefnogaeth dechnegol ar gyfer cynadledda ffôn ac offer Sain Glywedol yn yr ystafelloedd cyfarfod.
  • Darparu cefnogaeth wrth drefnu cyfarfodydd a digwyddiadau ar gyfer y Banc Datblygu a'i gysylltiadau allanol.
  • Delio â phost / dosbarthiadau a chofnodion post sy'n dod i mewn ac allan.
  • Cydlynu’r gwaith o dderbyn a dosbarthu gwasanaethau cludydd.
  • Rhoi ffobiâu i staff ac i ymwelwyr yn unol â gweithdrefnau, gan sicrhau bod cofnodion yn cael eu diweddaru.
  • Rhoi adborth rheolaidd i'r Rheolwr gwasanaethau canolog ynglŷn â safonau ac unrhyw faterion sydd a wnelo'r dderbynfa.
  • Darparu cefnogaeth weinyddol gyffredinol i'r Rheolwr Gwasanaethau Canolog a'r tîm gwasanaethau canolog.
  • Unrhyw dasg arall a all gael ei diffinio gan y Rheolwr gwasanaethau canolog i ddiwallu anghenion gweithredol yr adran.

Gwybodaeth, Sgiliau, Galluoedd a Phrofiad

Hanfodol

  • Sgiliau llafar ac ysgrifenedig da yn y Gymraeg a'r Saesneg
  • Y gallu i ganolbwyntio ar anghenion cwsmeriaid a chyflawni safon eithriadol
  • Sgiliau gweinyddol a threfniadol ardderchog
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol
  • Rhaid i chi allu gweithio fel rhan o dîm bach ond hefyd ar eich pen eich hun
  • Y gallu i flaenoriaethu gwaith o dan bwysau
  • Profiad o ddelio â phobl yn bersonol a thros y ffôn
  • Profiad o flwyddyn o leiaf o weithio mewn derbynfa brysur
  • Profiad o ddefnyddio cronfeydd data syml neu gasglu data ar daenlenni Excel
  • Lefel TGAU / NVQ gan gynnwys Saesneg a Mathemateg neu gymhwyster cyfatebol neu brofiad perthnasol mewn amgylchedd derbynfa / swyddfa
  • Gwybodaeth, Sgiliau, Galluoedd a Phrofiad

Dymunol

  • Ymwybyddiaeth o'r Banc Datblygu.
  • Profiad o weithredu switsfwrdd mewn sefydliad canolig.
  • Wedi eich hyfforddi i ymdrin â chwsmeriaid / sefyllfaoedd anodd.
  • Meddu ar ymagwedd hyblyg tuag at oriau gwaith.
  • Medrus wrth ddefnyddio Technoleg Gwybodaeth, gan gynnwys Word, Excel, SharePoint.
     

I wneud cais anfonwch eich ffurflen gais at: recriwtio@bancdatblygu.cymru

Ffurflen gais