Gweinyddydd Cymorth Buddsoddi

Rydyn ni am recriwtio Gweinyddydd Cymorth Buddsoddi seiliedig yn Nghaerdydd.

Pwrpas y swydd

Sicrhau bod y lefel uchaf o gymorth buddsoddi a chefnogaeth weinyddol yn cael ei ddarparu ar gyfer pob agwedd o weithgaredd buddsoddi eiddo a hynny’n effeithlon ac yn broffesiynol.

Darparu cefnogaeth weithredol arbenigol wrth gyflawni datblygiad parhaus yr adran a swyddogaethau o ddydd i ddydd.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau

Gan weithio i'r adran Eiddo, bydd gofyn i chi ddarparu cymorth weinyddol effeithiol gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Cynorthwyo'n agos gyda'r broses o gwblhau buddsoddiadau a chytundebau, gan gynnwys cydlynu dogfennau cyfreithiol a thynnu i lawr a gwiriadau credyd cyn tynnu arian i lawr. Yn benodol, darparu cefnogaeth ar gyfer casglu a gwirio ffeiliau buddsoddi cyn eu tynnu i lawr.
  • Paratoi dogfennau, adroddiadau, cofnodion ac agendâu i gefnogi cyfarfodydd tîm misol ac adolygiadau cymheiriaid buddsoddi.
  • Darparu rôl gydlynu ganolog gan sicrhau deialog parhaus gydag ymgeiswyr ac o fewn yr adran o ran cynnydd a gweithgaredd.
  • Rheoli'r holl ddogfennau buddsoddi a systemau cipio data gan gynnwys CRM, SharePoint a systemau cynllunio.
  • Cymryd cyfrifoldeb am brosesu ariannol, gan gynnwys codi archebion prynu a phrosesu anfonebau.
  • Cydlynu presenoldeb mewn cyfarfodydd, seminarau a digwyddiadau priodol.
  • Datblygu, dros amser, dealltwriaeth o, a phrofiad o, bob agwedd ar y broses fuddsoddi
  • Lle bo angen, bod yn gyfrifol am sgrinio ceisiadau yn ystod y camau cyntaf, ymgymryd ag ymchwil er mwyn gwneud asesiad ac ymateb i gleientiaid yn ffurfiol, gan ofyn am wybodaeth bellach os oes angen.
  • Ymgymryd ag unrhyw dasg arall a ddiffinnir gan Reolwr y Gronfa i ddiwallu anghenion gweithredol yr adran.

Gwybodaeth, sgiliau, galluoedd a phrofiad

Hanfodol

  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ysgrifenedig a llafar cryf
  • Sgiliau trefnu a gweinyddu cryf
  • Yn meddu ar hunan-gymhelliant a'r gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • Hyderus yn eich gallu chi eich hun i wneud penderfyniadau
  • Y gallu i flaenoriaethu a threfnu gwaith dan bwysau
  • Ymagwedd benderfynol tuag at gwblhau tasgau o safon uchel ac o fewn terfynau amser heriol
  • Llygad graff am fanylion
  • Wedi ymrwymo i ddatblygu gwybodaeth ac arbenigedd
  • Wedi'ch addysgu hyd at addysg gyffredinol o safon dda - TGAU, NVQ Lefel 2/3 neu safon gyfatebol
  • Yn brofiadol ac yn fedrus mewn cymwysiadau TG / PC safonol gan gynnwys Word, Excel, PowerPoint, Lotus Notes

Dymunol 

  • Siaradwr Cymraeg
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r amgylchedd Busnes yng Nghymru
  • Sgiliau cyflwyno
  • Profiad o ddadansoddi gwybodaeth ariannol

Ymgeisiwch

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, dilynwch y ddolen yma os gwelwch yn dda