Gyrru eich busnes

Ydych chi’n fusnes sefydledig sydd eisiau cymryd y cam nesaf i gynyddu twf eich cwmni?

Ymunwch â ni ar gyfer brecwast busnes ar 22 Mawrth pan fydd ein Dirprwy Reolwr Cronfeydd Bethan Cousins yn llywyddu trafodaeth fywiog gyda phanel o arbenigwyr, buddsoddwyr, cynghorwyr corfforaethol ac entrepreneuriaid ar sut i sicrhau’r sylfeini priodol er mwyn cyflymu twf.

Bydd ein Rheolwr Cronfa Buddsoddiadau Newydd, Chris Griffiths, yn eistedd ar y panel. Y panelwyr eraill yw:

  • Gary Partridge, Lexington Corporate Advisors
  • Mark Huxtable, Nuaire
  • Lucy Humphreys, Vista Retail
  • Helen Molyneux, Cadeirydd IWA a chyn Brif Weithredwr NewLaw Solicitors

 

I drefnu eich lle, cysylltwch ag Emily Wood erbyn dydd Gwener 16 Mawrth trwy ebost emily.wood@developmentbank.wales, gan nodi unrhyw ofynion deietegol yn eich ateb.

Pwy sy'n dod

Chris-Griffiths
Cyfarwyddwr Buddsoddi Technegol
Bethan-Cousins
Cyfarwyddwr Busnes Newydd