Arbenigwr DA Agritech Agxio yn codi £2.1m mewn rownd Cyn Cyfres A sydd wedi'i gordanysgrifio

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:

Wedi'i sefydlu yn 2018, mae'r cwmni wedi datblygu, defnyddio a dilysu llwyfan cod isel sy'n awtomeiddio rôl y gwyddonydd data a'r peiriannydd dysgu peiriannau i ddylunio, adeiladu a defnyddio datrysiadau DA ar raddfa menter yn gyflym ar draws ystod o achosion defnydd yn y diwydiannau amaethyddiaeth a gwyddor bywyd cysylltiedig.

Ar ôl masnacheiddio eu harlwy ac adeiladu partneriaethau strategol sylweddol, bydd y rownd ariannu’n cael ei defnyddio i dyfu’r tîm arobryn ymhellach, mynd i mewn i farchnadoedd DA, Amaethtech a gwyddorau bywyd newydd, a pharhau i ddatblygu’r platfform. 

Wedi’i leoli ar Gampws Arloesi a Menter Aberystwyth a Pharc Gwyddoniaeth Caergrawnt, mae Agxio yn cymhwyso dysgu peirianyddol uwch awtomataidd i ddod â gwyddoniaeth a thechnoleg i flaen y gad yn y diwydiannau amaethyddol, gwyddorau bywyd a biotechnoleg. Mae Banc Datblygu Cymru yn fuddsoddwr ac Agxio yw partner strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer Agritech Innovation, gyda'r cwmni wedi datblygu perthnasoedd cryf i gefnogi twf y DU a thwf Rhyngwladol. 

Mae platfform integredig sengl Agxio yn cyfuno llwyfannau perchnogol blaengar i ddatrys problemau cymhleth, byd go iawn sydd y tu hwnt i raddfa ddynol. Mae’n galluogi ffermwyr, ymchwilwyr a llunwyr polisi i harneisio a rhannu data, modelau ac arferion gorau yn ddiogel er mwyn darparu amaethyddiaeth gynaliadwy, fanwl gywir yn ystod y tymor.

Ac yntau’n ddata-agnostig, gall weithredu ar ddata rhifiadol, testunol a delwedd, ar y safle ac oddi arno, ac mae'n galluogi canlyniadau gorau posibl a gwneud penderfyniadau amser real. Mae'r platfform hefyd yn gyflymydd i adeiladu cymwysiadau newydd gan gynnwys dadansoddeg dronau, roboteg, dadansoddi delweddau a biotechnoleg. 

Mae cyfres o dechnolegau'r cwmni wedi'i dilysu'n fasnachol ar draws diwydiannau ac achosion defnydd gan gynnwys ffermydd âr a da byw, amaethyddiaeth amgylchedd caeedig, parasitoleg, gofal cymunedol y GIG, a phatholeg. 

Dywedodd Prif Weithredwr Agxio a’i gyd-sylfaenydd, Dr Stephen Christie: “Rydym yn gyffrous iawn ynghylch cam nesaf twf y cwmni. Mae gan ein technolegau Deallusrwydd Artiffisial a Dysgu Peirianyddol ystod eang o achosion defnydd, a chredwn fod y cyfleoedd twf i ni yn arwyddocaol iawn. Rydym hefyd wedi creu nifer o bartneriaethau cryf ar draws diwydiant, y llywodraeth a’r byd academaidd i sicrhau arloesedd ar y lefel uchaf.” 

Gwahoddwyd Agxio hefyd i gyflwyno yn Dubai Global Expo i arddangos arloesedd y DU.