Banc Datblygu Cymru yn lansio Cronfa Gyd-fuddsoddi Angylion Cymru £8 miliwn

Steve-Holt
Cyfarwyddwr Angylion Buddsoddi Cymru
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
ken skates

Mae Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer yr Economi a Thrafnidiaeth wedi lansio’n ffurfiol gronfa £8 miliwn newydd a fydd yn annog buddsoddiad gan angylion busnes ledled Cymru.

Gan siarad mewn digwyddiadau yng Nghaerdydd a Wrecsam yr wythnos hon, dywedodd Mr Skates y bydd Banc Datblygu Cymru yn gweithio gydag Angylion Buddsoddi Cymru (AIW) i ddwyn ynghyd syndicetiau ac i hwyluso mwy o fuddsoddiad ledled Cymru. 

Meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: “Rwy’n falch o lansio rhwydwaith angylion busnes newydd y banc datblygu, ynghyd â Chronfa Gyd-fuddsoddi £8 miliwn newydd Angylion  Cymru, a fydd yn ychwanegiad pwysig a gwerthfawr i’n busnes a’n system gefnogi entrepreneuraidd ehangach yng Nghymru.

“Bydd y rhwydwaith yn gweithio i gyfateb entrepreneuriaid yng Nghymru sydd eisiau cylllid ac arbenigrwydd gydag angylion busnes a syndicetiau, sydd eisiau buddsoddi yn y cyfleoedd gorau sydd gan Gymru i’w cynnig. Mae’n ddull a gymeradwyir gan fenter BeTheSpark ac un a gydnabyddir yn rhyngwladol fel un sy’n cefnogi twf economaidd mewn modd rydym yn gwybod a all wneud gwahaniaeth  mawr i gyfle busnes i oroesi. 

“Rwy’n ymroddedig i sicrhau bod gan ein Mentrau Bach a Chanolig fynediad at y cyllid sydd ei angen arnynt i gychwyn, cryfhau a thyfu ac, fel y nodir yn ein Cynllun Gweithredu Economaidd, mae Banc Datblygu Cymru, gan weithio ar y cyd â Busnes Cymru, wrth graidd ein gwaith i gyflenwi hyn.”

Tybir bod £1.5 biliwn yn cael ei fuddsoddi bob blwyddyn yn y DU drwy angylion, gyda rhyw 18,000 o angylion-fuddsoddwyr actif. Mae angylion yn darparu cymorth i’r sector cyfalaf menter ffurfiol drwy chwilio am entrepreneuriaid newydd a’u meithrin i fod yn barod ar gyfer buddsoddiad, a thrwy hynny gynyddu nifer y cwmnïau newydd a chynyddu llif cytundebau i gwmnïau cyfalaf menter.

Yn y gorffennol mae ffocws gweithgareddau angylion Cymru wedi ei reoli drwy’r xenos, Rhwydwaith Angylion Busnes Cymru. Ers ei sefydlu ddiwedd y 1990au, mae’r rhwydwaith wedi hwyluso mwy na £20 miliwn mewn buddsoddiad, gan dyfu o £478,900 yn 2001/02 i fwy na £2 filiwn yn 2015/16. 

Fel ffynhonnell symudol iawn o fuddsoddiad, caiff buddsoddiad angylion yn aml ei yrru gan yr amgylchfyd ac elw yn hytach na sectorau neu leoliadau busnes penodol. Tybia Banc Datblygu Cymru bod angylion busnes wedi cyd-fuddsoddi mwy na £4 miliwn ar y cyd â nhw yn ystod 2017/18. 

Gobeithir y bydd Cronfa Gyd-fuddsoddi Angylion Cymru yn cynorthwyo hyd at 80 o fusnesau a chreu a diogelu 375 o swyddi dros y pum mlynedd nesaf trwy ddenu ac annog buddsoddiad angylion ledled Cymru. Bydd buddsoddiad ecwiti o £25,000 i £250,000 ar gael ar sail cyllid cyfatebol gyda thymor buddsoddiad ar gyfartaledd o saith mlynedd. Bydd buddsoddwyr sy’n defnyddio cynlluniau SEIS ac EIS yn medru gwneud cais am arian.

Meddai Giles Thorley, Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru: “Mae angylion busnes yn cael eu cydnabod yn gynyddol o gwmpas y byd am eu rôl yn cefnogi datblygiad economaidd. Yn wir, mae gan yr Alban gymuned angylion busnes weithgar iawn a arweinir gan LINC Scotland ac mae nifer o rwydweithiau o gwmpas y wlad.

“Bydd y gronfa newydd yn gwneud Cymru yn gystadleuol; yn ein galluogi ni i annog buddsoddiad angylion a darparu cyllid ecwiti hanfodol ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol newydd a rhai sy’n tyfu yng Nghymru. Byddwn yn buddsoddi rhwng £25,000 a £250,000 ar sail cyllid cyfatebol ar o leiaf 1:1, ynghyd â rhaglen gymorth sy’n sicrhau bod anghenion busnes yn cael eu diwallu.

“Yn nodweddiadol, mae angylion busnes yn dod gyda chyfoeth o brofiad ar ôl rhedeg eu busnes eu hunain neu fod yn aelod o dîm rheoli llwyddiannus. Caiff y sgiliau hyn wedyn eu rhannu gyda’r busnesau eu hunain drwy gyfrwng cyngor rheoli, mentora a rhwydweithio. Dyma’r gwahaniaeth allweddol, sy’n cynyddu’r siawns y bydd buddsoddiadau angylion yn llwyddiannus oherwydd bod gan lawer o fusnesau newydd dimau rheoli amhrofiadol.”

Ychwanegodd Steve Holt, Cyfarwyddwr, Angylion Buddsoddi Cymru: “Mae Angylion Buddsoddi Cymru yn rhan o’r banc datblygu sy’n canolbwyntio ar alluogi, cydgysylltu, cefnogi ac yn y pen draw, gwella gweithgareddau angylion ym mhob rhanbarth o Gymru. Mae busnesau newydd yn arbennig yn wynebu rhwystrau i gyllid gan eu bod yn dal yn y cyfnod datblygu, mewn marchnad newydd neu ddim yn barod ar gyfer arianwyr prif ffrwd. Mae angylion buddsoddi yn camu i mewn i’r bwlch hwn a bydd y Gronfa Gyd-fuddsoddi Angylion Cymru newydd yn sicrhau creu marchnad angylion buddsoddi mwy gweithgar. Rydym yn awyddus i ddatblygu’r ecosystem buddsoddwyr yng Nghymru ac eisiau meithrin rhwydwaith cryf o fuddsoddwyr arweiniol ar gyfer y gronfa hon.”

Ers Ebrill 2017 mae Angylion Buddsoddi Cymru wedi cofrestru 58 o fuddsoddwyr newydd, 17 ohonyn nhw wedi eu lleoli y tu allan i Gymru. Mae hyn wedi dyblu’r gronfa o fuddsoddwyr, gan ddod â nifer yr angylion a gofrestrwyd i 108. Trwy’r rhwydwaith, codwyd buddsoddiad o £1.147 miliwn gan 14 o fusnesau, saith ohonyn nhw yn gyd-fuddsoddiadau gyda’r banc datblygu.

Bydd y broses o wneud cais ar gyfer Cronfa Gyd-fuddsoddi Angylion Cymru yn agor ar 1 Mehefin. Dylai unrhyw un â diddordeb wneud cais trwy fynd i developmentbank.wales/angels.