Beth yw'r gwahaniaeth rhwng ecwiti a dyled?

Portrait of Sophie Vellam
Swyddog Ymgyrchoedd
Newidwyd:
equity vs debt

Mae'r mwyafrif o fathau o gyllid allanol yn dod o fewn un o ddau gategori: dyled neu ecwiti. Mae'r rhain yn ddau ddull gwahanol iawn o ariannu ac mae manteision ac anfanteision i bob un. Mae llawer o fusnesau yn dewis defnyddio cyfuniad o'r ddau.

Yn yr erthygl hon rydym yn esbonio'r termau dyled ac ecwiti ac yn edrych ar rai o'r gwahaniaethau allweddol er mwyn eich helpu i wneud y penderfyniad cywir pan fyddwch chi'n codi cyllid i'ch cwmni.

 

Beth yw cyllid ecwiti?

Cyllid ecwiti yw'r broses o godi cyfalaf trwy werthu cyfranddaliadau yn eich busnes. Mae yna nifer o ffynonellau cyllid ecwiti, gan gynnwys buddsoddwyr angylion, cyfalafwyr menter, cwmnïau ecwiti preifat, a phlatfformau cyllido torfol ecwiti. Bydd rhai cwmnïau'n codi sawl rownd o gyllid ecwiti gan wahanol fathau o fuddsoddwyr yn ystod cylch bywyd busnes.

Mae buddsoddwyr ecwiti yn gwneud enillion ar eu buddsoddiad trwy werthu eu cyfranddaliadau yn y pen draw neu drwy dderbyn difidendau (cyfran o elw'r cwmni - mae hyn yn fwy cyffredin i gwmnïau aeddfed). Mae ganddynt fuddiant breintiedig yn llwyddiant y busnes, a bydd y buddsoddwr cywir yn darparu arbenigedd a chysylltiadau i helpu'r cwmni i dyfu.

Gallwch ddarganfod mwy am gyllid ecwiti yn ein blogbost, Beth yw cyllid ecwiti a sut mae'n gweithio?

Beth yw cyllid dyled?

P'un a ydych wedi cymryd morgais, benthyciad car neu fenthyciad myfyriwr, mae'n debyg eich bod eisoes yn gyfarwydd ag ariannu dyled. Yn ei hanfod, mae'n golygu benthyca cyfandaliad, y byddwch wedyn yn ei dalu'n ôl dros amser ynghyd â swm y llog y cytunwyd arno.

Daw cyllid dyled ar sawl ffurf, gan gynnwys benthyciadau busnes, morgeisi masnachol, cyllid asedau, a chyfleusterau cyfalaf gweithio, er enghraifft gorddrafftiau a disgowntio anfonebau. Gellir ei sicrhau yn erbyn ased rydych chi'n berchen arno, neu gall fod heb sicrwydd. Oherwydd y lefel is o risg i'r benthyciwr, yn gyffredinol mae'n haws cael dyled wedi'i sicrhau ac mae'n rhatach.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng dyled a chyllid ecwiti?

Mae yna nifer o wahaniaethau allweddol i'w cofio wrth i chi ystyried pa un o'r dulliau cyllido hyn i'w dewis. Mae'r rhain yn cynnwys:

Ad-daliad

Gyda chyllid dyled, mae'n ofynnol i chi ad-dalu'r arian ynghyd â llog dros gyfnod penodol o amser, fel rheol mewn rhandaliadau misol. Ar y llaw arall, nid oes unrhyw rwymedigaeth ad-dalu ar gyllid ecwiti, felly gellir sianelu mwy o arian i dyfu eich busnes.

Mae buddsoddwyr, wrth gwrs, eisiau gweld enillion ar eu buddsoddiad, ond dim ond os a phan fydd eich cwmni'n gwneud yn dda y bydd hyn yn digwydd. Felly, yn wahanol i gyllid dyled sydd â chost a bennwyd ymlaen llaw, mae cost cyllid ecwiti yn fwy amrywiol, gan ei fod yn gyfran yn enillion a gwerth eich cwmni yn y dyfodol.

Perchnogaeth

Mae buddsoddwyr ecwiti yn prynu cyfran yn eich busnes, sy'n golygu bod eich cyfranddaliad eich hun yn lleihau, ond gyda chyllid dyled rydych chi'n cadw perchnogaeth lawn. Fodd bynnag, gall fod yn werth cael canran is o'r busnes os yw'r buddsoddwr ecwiti yn darparu llawer o werth (ar ffurf arian ac adnoddau anariannol, megis arweiniad arbenigol a mynediad at gysylltiadau) sy'n eich helpu i greu cwmni mwy, sy'n fwy llwyddiannus. Meddyliwch amdano fel hyn: a fyddai'n well gennych chi fod yn berchen ar 100% o gwmni £100k neu 70% o gwmni £1 miliwn?

Sicrwydd

Gall benthyciwr ofyn i'r sawl sy’n benthyca’r arian ganddynt i addo ased fel gwarant ar gyfer y benthyciad, fel eiddo neu offer. Os na all y benthyciwr ad-dalu'r benthyciad, gall y benthyciwr hawlio'r ased i gael ei arian yn ôl. Fodd bynnag, gyda chyllid ecwiti, nid oes angen i chi rhoi cynnig cyfochrog gerbron.

Mynediad at gyllid

Os ydych chi'n fusnes newydd heb unrhyw hanes masnachu nac asedau corfforol ac nid ydych am ddefnyddio sicrwydd personol, efallai y bydd hi'n anodd i chi sicrhau cyllid dyled, o leiaf gan fenthycwyr traddodiadol. Mae buddsoddwyr ecwiti yn aml yn barod i gefnogi cwmnïau sy'n cael eu hystyried yn risg rhy uchel gan lawer o ddarparwyr cyllid dyled.

Cyfranogiad

Efallai y bydd buddsoddwr ecwiti yn gofyn am gael sedd ar y bwrdd. Mae hynny'n golygu y bydd ganddyn nhw fewnbwn o ran gosod cyfeiriad cyffredinol y busnes a byddant yn cymryd rhan mewn penderfyniadau sydd a wnelo'r cwmni. Bydd y buddsoddwr cywir yn dod â phrofiad ac arbenigedd gwerthfawr i'r ystafell fwrdd a bydd yn gallu agor drysau i chi gyda'u rhwydwaith o gysylltiadau. Yn groes i hynny, nid oes gan fenthyciwr berchnogaeth ac felly nid oes ganddynt unrhyw gyfranogiad i benderfyniadau busnes.

Proses codi arian

Os ydych chi ar frys i godi arian ar gyfer eich busnes, yna mae'n debyg nad cyllid ecwiti yw eich opsiwn gorau. Gall gymryd cryn dipyn o amser i ddod o hyd i'r buddsoddwr cywir, ac yna mae'n rhaid i chi drafod telerau'r fargen a hwyluso'r broses diwydrwydd dyladwy, ymhlith pethau eraill. Mae yna lawer mwy o waith cyfreithiol hefyd. Mae cyllid dyled fel arfer yn symlach ac yn aml gallwch dderbyn yr arian mewn ychydig wythnosau neu ddyddiau hyd yn oed gan rai darparwyr.

Pa un ddylech chi ei ddewis: dyled neu ecwiti?

Yn y pen draw, bydd y dull cyllido a ddewiswch yn dibynnu ar eich sefyllfa unigol, gan gynnwys natur eich busnes a'i gam datblygu.

Efallai mai cyllid dyled yw'r opsiwn gorau i chi os:

  • Oes gennych lif arian cyson a model busnes profedig
  • Byddai'n well gennych aros fel unig berchennog eich busnes
  • Rydych chi'n hoffi perthynas tymor byr sy'n dod i ben unwaith y bydd y benthyciad wedi'i ad-dalu
  • Mae'n haws I chi reoli llif arian a rhagweld treuliau os ydych chi'n gwybod ymlaen llaw faint o’r prif fenthyciad a’r llog y mae angen i chi ei dalu

 

A gallai cyllid ecwiti fod yr opsiwn gorau: os:

  • Oes gennych hanes ariannol cyfyngedig neu ddiffyg gwarant cyfochrog
  • Nid ydych chi eisiau'r baich o wneud ad-daliadau rheolaidd am fenthyciad
  • Mae gennych gynlluniau ar gyfer twf, megis symud i farchnadoedd newydd neu ehangu gweithrediadau, sy'n ymofyn llawer o gyfalaf (yn aml gallwch chi godi symiau uwch gydag ecwiti)
  • Byddech chi'n elwa o'r sgiliau a'r profiad y gallai buddsoddwr eu cynnig

 

Cofiwch nad oes angen i chi ddewis un neu'r llall o reidrwydd; efallai y byddwch chi'n penderfynu y byddai cymysgedd o ecwiti a dyled yn gweddu orau i'ch cwmni.

 

Cymhareb dyled i ecwiti

Un peth i'w gadw mewn cof, p'un a ydych yn chwilio am fenthyciad neu fuddsoddiad ecwiti, yw eich cymhareb dyled i ecwiti. Fel y mae'r enw'n awgrymu, mae'r gymhareb ariannol hon yn cymharu swm y ddyled o'i gymharu â faint o ecwiti a ddefnyddir i ariannu asedau eich cwmni.

Gallwch gyfrifo eich cymhareb dyled i ecwiti drwy rannu cyfanswm eich rhwymedigaethau (yr hyn sy'n ddyledus gan eich busnes i eraill) ag ecwiti cyfranddalwyr (cyfanswm eich asedau llai cyfanswm y rhwymedigaethau).

Mae'n fetrig pwysig oherwydd fe all darpar fenthycwyr a buddsoddwyr edrych arno fel dangosydd o iechyd ariannol eich busnes. Po uchaf yw'r gymhareb dyled i ecwiti, y mwyaf peryglus y maent fel arfer yn ystyried y buddsoddiad i fod, oherwydd efallai na fydd y cwmni'n gallu ad-dalu ei ddyledion.

Fodd bynnag, efallai na fyddant am fuddsoddi mewn busnes â chymhareb isel iawn, ychwaith, gan y gall hyn olygu nad ydych wedi tyfu eich busnes yn effeithlon drwy ddefnyddio dyled.

Felly, beth yw cymhareb dyled i ecwiti dda? Mae'r ateb yn dibynnu i raddau helaeth ar y diwydiant y mae eich busnes ynddo. Yn aml mae gan gwmnïau sy'n buddsoddi symiau mawr o arian mewn asedau (cwmnïau cyfalaf-ddwys), er enghraifft yn y diwydiant gweithgynhyrchu, gymhareb dyled i ecwiti cymharol uchel. Mae busnesau yn, dyweder, y diwydiannau gwasanaeth, yn dueddol o fod â chymhareb is.

Yn y pen draw, mae busnesau llwyddiannus yn tueddu i ddefnyddio cymysgedd o ddyled ac ecwiti sy'n briodol i'w diwydiant, felly mae hyn yn rhywbeth i'w gadw mewn cof wrth i chi dyfu eich cwmni a chodi arian.

 

Os hoffech ddysgu mwy am y mathau hyn o gyllid, archwiliwch y cynnwys yn yr hwb blog hwn neu cysylltwch â'n tîm cyfeillgar a gwybodus. Rydym yn cynnig cyllid busnes hyblyg, ar ffurf benthyciadau ac fel ecwiti, i gwmnïau yng Nghymru o £1,000 hyd at £5 miliwn.

Be' nesaf?

Eisiau trafod mwy ar bethau? Ymholwch trwy ddefnyddio ein ffurflen cysylltu â ni. 

 

Cysylltu â ni