Mae Plas Farm ar Ynys Môn wedi sicrhau benthyciad o £250,000 gan y Banc Datblygu Cymru sydd newydd ei ffurfio wrth i gynlluniau gael eu cyhoeddi i ddyblu trosiant yn ystod y pum mlynedd nesaf.
Mae gwneuthurwr iogwrt wedi'i rewi yn Ynys Môn wedi sicrhau buddsoddiad o £250,000 yn eu busnes teuluol.
Bydd Plas Farm yn defnyddio'r benthyciad o £250,000 gan Fanc Datblygu Cymru i brynu offer a pheiriannau newydd ynghyd ag ariannu ymgyrch gwerthu a marchnata.
Sefydlwyd Plas Farm gyntaf yn 1987 gan David Williams wrth iddo edrych tuag at arallgyfeirio ei fusnes llaeth. Yn 2007 symudodd y gwaith cynhyrchu i uned ddiwydiannol i Gaerwen, Ynys Môn. Yn 2014, dyfarnwyd Gwobr y Frenhines am Fenter i'r cwmni, gan gydnabod llwyddiant eithriadol mewn masnach ryngwladol.
A hwythau'n cyflogi 28 o bobl ynghyd â staff tymhorol ychwanegol yn ôl yr angen, Plas Farm yw'r gwneuthurwr label preifat o iogwrt wedi'i rewi mwyaf yn y diwydiant yn y DU, gyda 40% o gynhyrchion yn cael eu hallforio'n fyd-eang. Mae'r amrediad cynnyrch yn cynnwys iogwrt wedi'i rewi, hufen iâ, saladau oer a bwydydd iachus.
Rhagwelir y bydd trosiant yn dyblu i dros £4m dros y pum mlynedd nesaf gyda iogwrt organig ac anorganig wedi’i rewi yn cyfrif am dros 50% o'r gwerthiannau.
Mae'r Cyfarwyddwr Rhian Williams yn dweud bod iogwrt wedi'i rewi yn dod yn beth fwyfwy prif ffrwd wrth i ddefnyddwyr chwilio am ddewis iachach yn lle hufen iâ: "Mae'r farchnad am iogwrt wedi'i rewi wedi tyfu'n gyson dros y pum mlynedd ddiwethaf ar draws Ewrop wrth i'r galw am ddewisiadau iachach gynyddu. Mae hygyrchedd a chyflymder datblygiad cynnyrch yn ffactorau hanfodol o'n strategaeth fusnes wrth inni edrych tuag fanteisio ar y galw cynyddol am bwdinau iachach, yn benodol iogwrt wedi'i rewi, a phwdinau fegan a phwdinau â llai o siwgr ynddynt.
"Mae cyfalaf gweithio yn hanfodol i gynnal ac adeiladu cyfran o'r farchnad ac, fel pob busnes, mae angen felly gallu cael mynediad hawdd at gyllid i ariannu twf yn y dyfodol. Mae'r gefnogaeth gan ein rheolwr cyfrif ymroddedig ym Manc Datblygu Cymru wedi bod yn wych; mae o wedi treulio amser i ddod i adnabod ein busnes, deall ein gofynion a chynnig pecyn ariannu sy'n diwallu ein hanghenion penodol. Mewn gwirionedd, mae'r broses gyfan wedi bod yn ddi-boen a doedd ddim mor frawychus ac yr oeddem wedi ei ddychmygu. Bellach mae gennym y cyfalaf a'r hyder i fynd â'r busnes i'r cam datblygu nesaf tra'n cadw ein gwreiddiau'n gadarn yma ar Ynys Môn."
Rhodri Evans yw Rheolwr Rhanbarthol Gogledd Cymru ar gyfer Banc Datblygu Cymru. Dywedodd: "Mae Plas Farm yn gwmni gweithgynhyrchu bwyd sefydledig sydd wedi cerfio lle arbennig iddo’i hun yn y maes cynhyrchu iogwrt wedi'i rewi sy'n gwneud defnydd gwych o laeth Cymru. Dyma fusnes allforio gyda hanes masnachu cryf, ac mae Plas Farm yn elwa o gael tîm rheoli profiadol sy'n meddu ar uchelgais gwirioneddol i dyfu'r cwmni. Maen nhw'n gweddu'n ddelfrydol ar gyfer y cyllid sydd ar gael o'r banc datblygu newydd."
"Gyda'n cefnogaeth ni, mae gan y tîm bellach y cyfalaf gweithio sydd ei angen arnyn’ nhw i ddatblygu cynhyrchion newydd a thargedu cyfleoedd marchnad mawr iawn tra'n cynnal eu henw da a'u gallu i gadw cwsmeriaid. Mae'n bleser cael cefnogi’r fath lwyddiant gwych yng Ngogledd Cymru."
Caiff Cronfa Busnes Cymru ei hariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy gyfrwng Llywodraeth Cymru. Fe'i crëwyd yn benodol i gefnogi busnesau gyda llai na 250 o weithwyr sy'n seiliedig yng Nghymru a'r rhai sy'n barod i symud yma. Mae benthyciadau busnes a phecynnau ecwiti o £50,000 hyd at £2 filiwn ar gael.