Mae Voltric, busnes tanysgrifio cerbydau trydan, wedi agor swyddfeydd yng Nghasnewydd cyn y cam cyllid ecwiti swyddogol cyntaf.
Sefydlwyd Voltric gan y prif weithredwr Julian Menshah a’r cyd-sylfaenydd Brent Oldfield ym Mryste yn 2019. Cyn y cam cyllid ecwiti swyddogol cyntaf, maent eisoes wedi sicrhau buddsoddiad gan syndicet o wyth angel busnes dan arweiniad y prif fuddsoddwr, Eamon Tuhami. Cafodd hyn ei gyfateb â buddsoddiad gan Gronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru, ochr yn ochr â rhagor o fuddsoddiad gan fuddsoddwyr preifat eraill.
Cymerodd Voltric, sydd bellach wedi’u lleoli yn Tramshed Tech yng Nghasnewydd, ran yn Ffowndri gyntaf FinTech Cymru – y rhaglen sbarduno di-ecwiti sy’n darparu mentora a chymorth i helpu i ysgogi, cyflymu a chynyddu busnesau newydd yng Nghymru.
Mae Voltric wedi bod yn gweithio gyda gweithgynhyrchwyr gan gynnwys MG UK, Kia UK, Fiat, Tesla a Mercedes. Rhai o’r Cwmnïau Gwerthu eraill sy’n bartneriaid â nhw yw KIA Fish Brothers, Richmond Motor Group a Sytner Mercedes. Mae disgwyl i fwy o weithgynhyrchwyr a chwmnïau gwerthu ddod yn bartneriaid cyn bo hir wrth i’r cwmni ehangu’r hyn mae’n ei gynnig o ran symudedd, gan greu platfform MaaS (symudedd-fel-gwasanaeth) go iawn. Bydd hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr gael gafael ar lu o atebion ar gyfer eu hanghenion trafnidiaeth.
Dywedodd Julian Menshah: “Cynlluniwyd ein hatebion cwsmer yn gyntaf i fynd i’r afael â pha mor gostus a chymhleth yw prynu Cerbyd Trydan, y gormodedd o CO2 a NO2 niweidiol sydd yn ein haer, a’r galw cynyddol i symudedd fod yn ymarferol, yn gynaliadwy ac yn effeithlon.
“Rydym yn darparu gwasanaeth tanysgrifio ar gyfer cerbydau trydan; mae defnyddwyr yn talu un ffi fisol sy’n cynnwys llogi car trydan, yswiriant, treth car, yswiriant torri i lawr, cynnal a chadw ac atgyweirio. Maent yn cael car trydan sy’n cyd-fynd â’u ffordd o fyw gydag ymrwymiad o rhwng un mis a 12 mis yn eithaf didrafferth o’i gymharu â chytundebau prydlesu safonol.
“Fel busnes, rydyn ni’n ffodus bod gennym ni rwydwaith enfawr o randdeiliaid cefnogol, ond mae’r profiad o gymryd rhan yn Ffowndri Fintech Cymru wedi agor cymaint o ddrysau i ni, gan ein galluogi i gael sgyrsiau rheolaidd â phartneriaid posibl fel cwmni yswiriant Admiral.
“Nawr, gyda chefnogaeth Banc Datblygu Cymru a’n angylion buddsoddi, rydym yn barod i dyfu o’n canolfan newydd yng Nghasnewydd. Byddwn yn buddsoddi yn ein technoleg a’n tîm er mwyn i fwy o bobl allu gyrru cerbydau trydan a theithio gyda ni.”
Dywedodd Eamon Tuhami, y prif fuddsoddwr: “Mae tanysgrifiadau ceir trydan yn ffordd bwysig ac arloesol o fynd i’r afael â’r problemau sy’n wynebu symudedd yn y DU heddiw. Mae cymryd y cam cyntaf i ddefnyddio ceir trydan am y tro cyntaf yn frawychus. Mae llawer o wybodaeth, a chamwybodaeth, i’w ystyried. Mae Julian, Brent a’r tîm am ei gwneud mor hawdd â phosibl i gael pobl y tu ôl i’r olwyn mewn car trydan drwy gynnig gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid i gyd-fynd â thechnoleg wych. Mae gyrwyr a’r amgylchedd yn sicr ar eu hennill, sy’n gwneud Voltric yn fuddsoddiad deniadol iawn.”
Ychwanegodd Tom Preene o Angylion Buddsoddi Cymru: “Mae Voltric yn MaaS sy’n helpu gyrwyr i leihau costau ac allyriadau, felly mae’n addas iawn i ni fel buddsoddwr sy’n ceisio cael effaith a sydd â phwrpas cymdeithasol. Drwy ddefnyddio Cronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru i gefnogi buddsoddwyr cynnar fel Eamon a’r syndicet hwn o wyth angel busnes, gallwn ddarparu’r cymorth cychwynnol sydd ei angen ar y cwmni i ddenu buddsoddiad dilynol, a sicrhau llwyddiant cynaliadwy tymor hir.”
Mae Cronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru, sy’n werth £8 miliwn, yn rhoi ffynhonnell allweddol o gyllid amgen i fusnesau Cymru drwy annog mwy o fuddsoddiad gweithredol gan angylion. Mae’r gronfa bum mlynedd yn rhoi cefnogaeth i greu syndictiau a rhwydweithiau angylion ledled Cymru drwy ddarparu benthyciadau ac ecwiti hyd at £250,000 i fuddsoddwyr sy’n chwilio am gyd-fuddsoddiad.
Capital Law oedd yn cynrychioli Angylion Buddsoddi Cymru a’r syndicet angylion. Melissa Sikwita oedd yn gweithredu ar ran Voltric.