Cyllid fydd yn rhoi hwb i chi ddechrau

Nicola-Edwards
Rheolwr Cronfa
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cyllid
Twf
Dechrau busnes
start-up

Mae yna amrywiaeth o gyllid hyblyg ar gael ar gyfer busnesau sy'n dechrau yng Nghymru. Mae Nicola Edwards, Rheolwr Cronfa Micro Fenthyciadau yn esbonio'r hyn sydd ar gael gan Fanc Datblygu Cymru.

Ydych chi'n chwilio am gyllid i sefydlu neu dyfu busnes? O rentu neu brynu eiddo i logi staff a marchnata, gallwch siarad â Banc Datblygu Cymru am yr arian rydych chi ei angen.

Hyblyg, cyflym a syml

Yma ym Manc Datblygu Cymru, rydym yn helpu busnesau i ddechrau a thyfu trwy ddarparu benthyciadau sy'n gyflym ac yn hawdd i gael gafael arnynt. Oherwydd y ffordd unigryw yr ydym yn cael ein hariannu, gallwn gynnig ystod o gyllid hyblyg a all weithio gydag anghenion eich busnes. Mae hyn yn golygu, yn hytrach nag addasu'r busnes i'r cyllid, fe allwn ni strwythuro pecynnau ariannol sy'n addas i'ch busnes unigol. Yn syml, mae'n ymwneud â beth sy'n gweithio i chi a'ch busnes chi.

Os ydych chi'n chwilio am fenthyciad o hyd at £50,000 i ddechrau busnes yna bydd angen i ni weld ychydig o bethau:

  • crynodeb o gynllun busnes
  • rhagolygon llif arian
  • datganiadau banc chwe mis

 

Bydd angen cyfraniad arian personol hefyd ond y newyddion da yw ein bod yn cynnig cyfraddau llog sefydlog tra pery eich benthyciad gyda ni. Mae yna hefyd ddigonedd o opsiynau i'r rhai sy'n chwilio am gyllid dros £50,000.

Gallwch wirio eich cymhwyster yn y fan hyn.

Meddwl agored, masnachol a lleol!

Mae gwneud penderfyniadau cyflym, lleol yn hanfodol i'n llwyddiant. Mae gennym reolwyr cyfrif a swyddfeydd rhanbarthol ar hyd a lled Cymru a fydd yn fodlon dod atoch chi. Mae llawer o'n cwsmeriaid hefyd yn gwerthfawrogi'r dull cydweithredol sydd gennym wrth weithio gyda chyrff eraill y llywodraeth, benthycwyr a sefydliadau fel Busnes Cymru a'r Ffederasiwn Busnesau Bach.

Ewch i weld Busnes Cymru am ragor o gyngor ac arweiniad ar ba help sydd ar gael.

Fe hoffem gael sgwrs gyda chi am yr arian sydd gennym ar gael. Mae cyllid yn amrywio o £1,000 i £5 miliwn ar gyfer busnesau o bob siapiau a maint, felly edrychwch ar ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth, neu rhowch alwad i ni ar 0800 587 4140.