Paperclip yn sicrhau dros £500,000 yng nghylch cyllido diweddaraf Banc Datblygu Cymru

Sarah-Smith
Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
paperclip

Mae Paperclip, cwmni meddalwedd sy'n seiliedig yng Nghaerdydd wedi sicrhau dros £500,000 yn eu rownd gyllido ddiweddaraf. Ariannwyd y rownd gan y buddsoddwr presennol, Banc Datblygu Cymru, gyda chyllid ychwanegol gan gonsortiwm o angylion, gan gynnwys y sylfaenydd GoCompare, Hayley Parsons, a chyn Brif Swyddog Cyllid y Financial Times Tim Ward, a oedd hefyd yn rhan o'r tîm a werthodd Friends Reunited i ITV mewn cytundeb gwerth £175 miliwn yn 2005.

Dyma'r drydedd rownd o gyllid mae Paperclip wedi'i gael gan y banc datblygu.

Ac yntau wedi cael ei sefydlu gan y graddedigion o Goleg Imperial Llundain Rich Woolley ac Alan Small, mae llwyfan Paperclip yn caniatáu i ddefnyddwyr brynu, gwerthu, cyfnewid a rhoi nwyddau ail-law i ddefnyddwyr Paperclip cyfagos. Yn ogystal â hynny, mae gan y cwmni gynnig cyffrous B2B sy'n debygol o aflonyddu ar ddiwydiant y farchnad fenter.

Meddai Prif Weithredwr Paperclip, Rich Woolley: "Mae llwyfan ein marchnadle yn tyfu'n gyflym, gyda defnyddwyr yn parhau i gynyddu a datganiadau partneriaid menter yn dyblu mis wrth fis, ochr yn ochr â ffrwd sy'n tyfu'n gynyddol sy'n cynnwys rhai enwau mawr. Roedd 2017 yn flwyddyn fawr ar gyfer Paperclip; fe wnaethon ni dyfu o dri ohonom yn gweithio mewn fflat i dîm o 16. Fe wnaethom symud i swyddfa wych yng nghanol dinas Caerdydd ac agor swyddfa yn y Weriniaeth Tsiec."

"Roedd y cylch cyllido diweddaraf hwn yn cynnwys cryfhau ein bwrdd gyda sylfaenwyr profiadol, buddsoddwyr a lefelau C sy'n hen law arni. Rydyn ni i gyd yn gyffrous wrth feddwl am wneud 2018 yn flwyddyn arall lle byddwn yn torri record eto yn Paperclip."

Mae gan y farchnadle filoedd o eitemau gyda defnyddwyr yn cael eu hychwanegu bob wythnos ar draws y DU.

Dywedodd Hayley Parsons, sylfaenydd GoCompare: "Pan gyfarfûm â'r tîm Paperclip, fe wnaeth eu huchelgais ar gyfer y busnes greu argraff dda arnaf ac roeddwn yn gwybod yn syth fy mod eisiau buddsoddi ynddynt - mae'n anodd peidio â chael eich cyffroi gan eu hegni a'u hangerdd, ond hefyd roedd y cynnyrch yn enwedig yn rhywbeth yr oeddwn yn cael fy nhynnu ato. Yn ogystal â meithrin marchnad sy'n wynebu'r defnyddwyr, roeddwn wrth fy modd gyda'r syniad y gellid addasu eu llwyfan ar gyfer busnesau a'u bod yn gallu helpu llawer iawn gydag ymgysylltu â gweithwyr. Mae gan y criw yma rai datblygiadau gwych ar y gweill ac rwy'n teimlo'n gyffrous fy mod yn cymryd rhan ac yn rhoi help neu gyfarwyddyd lle bynnag y byddant fy angen i! "

Ychwanegodd Sara Smith, Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru: "Mae tîm Paperclip wedi datblygu darn o feddalwedd sy'n hawdd ei ddefnyddio, sy'n ennill mwy o ddefnyddwyr bob wythnos a chyda'r cynnig menter marchnad B2B newydd, mae amseroedd cyffrous o'u blaenau. Mae eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn gyffrous. Mae'r cyd-fuddsoddiad diweddaraf hefyd yn golygu eu bod yn cael cefnogaeth gan rai blaenllaw yn y diwydiant a fydd yn cefnogi a chynghori'r tîm ymhellach."