Ydych chi'n barod i roi hwb o ddifri i'ch busnes dyfu?

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cyllid
Twf

Helen Molyneux yw cyn Brif Weithredwr NewLaw Solicitors a Chadeirydd y Sefydliad Materion Cymreig. Mae hi'n dweud, er mwyn cyflawni twf cyflym, mae angen cael y sylfeini iawn yn eu lle.

2004 oedd hi pan wnes i sefydlu NewLaw Solicitors yng Nghaerdydd. Erbyn 2010, yr oeddem yn un o'r deg cwmni oedd yn tyfu gyflymaf yng Nghymru ac erbyn 2014 cawsom ein prynu gan yr Helphire Group am £43.2 miliwn. Dysgodd y cyfnod hwnnw o ddeng mlynedd un neu ddau o bethau i mi am reoli twf.

Fel perchennog busnes, roeddwn i'n gwybod yn rhy dda am yr her o nodi'r strwythur cyllido cywir i helpu i roi hwb gwirioneddol i dwf. Heb godi unrhyw gyfalaf efallai y byddwch chi'n gallu tyfu eich busnes yn organig, trwy hunan-ariannu ac ail-fuddsoddi elw ond gall gymryd amser maith. Mae marchnadoedd yn symud yn gyflym iawn ac fe allech golli cyfleoedd heb chwistrelliad o gyfalaf.

O ariannu torfol i ariannu anfonebau a chyllido dyledion, mae yna frith draphlith o opsiynau ar gyfer busnesau bach a chanolig yng Nghymru sy'n bwriadu cynyddu eu maint, ond dydi hi ddim gwastad yn hawdd gweithio allan beth sydd orau i'ch busnes.

Y man ‘galw heibio’ cyntaf yn aml yw eich banc stryd fawr am fenthyciadau cyfalaf gweithio, benthyciadau asedau sefydlog neu ar gyfer ffactorio. Bydd y swm ad-dalu'n amrywio yn dibynnu ar y benthyciwr, hyd y tymor a'r gyfradd llog. Fodd bynnag, un o'r anawsterau wnaethom ni ei brofi oedd ceisio egluro ein model busnes cyfreithiol anhraddodiadol iawn i'r banciau. Nid oedd ein mantolen ni yn edrych fel y buasech yn disgwyl ac felly 'doeddem ni ddim yn cydweddu â'u proffil risg arferol. Mae pobl yn dweud wrthyf fod hon yn broblem gyffredin os yw'ch busnes yn newydd, wedi dioddef colledion cychwynnol neu yn ddiweddar, yn meddu ar statws credyd gwael neu eich bod wedi cael eich gwrthod yn ddiweddar am arian cyllido gan fanc. O dan yr amgylchiadau hynny, efallai y bydd yn haws i chi gael gafael ar gyllid lle nad yw'n dod o fanc, fe all fod yn fwy hyblyg ac o bosibl yn rhatach. Gall hyn gynnwys darparwyr benthyciadau masnachol, benthycwyr cyfoedion i gyfoedion, darparwyr prydlesau a darparwyr disgownt anfonebau.

Y dewis amgen arall yw buddsoddiad ecwiti. Cyfeirir at ecwiti yn aml fel cyfalaf amyneddgar. Mae'n bartneriaeth hirach na benthyciad. Hefyd, yn wahanol i fenthyciadau, ni fydd yn rhaid i chi wneud ad-daliadau misol, felly gellir rhoi'r holl fuddsoddiad sydd wedi cael ei godi tuag at eich cynlluniau twf. Yn gyffredinol, gallwch godi symiau mwy o gyfalaf nag y gallech ei gael pe baech yn benthyca arian.

Dyma'r dull gweithredu wnaethom ni ei ddefnyddio yn NewLaw. Gallaf ddweud yn hyderus, os wnewch chi ddewis y buddsoddwr iawn, yn aml maen nhw'n cynnig y sgiliau, cysylltiadau a phrofiad gwerthfawr i'ch busnes. Gallant hefyd gynorthwyo gyda strategaeth a phenderfyniadau allweddol a bydd gan rai rwydweithiau eang o gysylltiadau i gynorthwyo'ch busnes. Yn sicr, dylech chwilio am fuddsoddwr sy'n gallu ychwanegu mwy na dim ond cyfalaf.

Fel chithau, mae gan fuddsoddwyr ddiddordeb gwirioneddol yn llwyddiant y busnes - Ei dwf, ei broffidioldeb a'i gynnydd mewn gwerth. Mae buddsoddwyr yn cael enillion ar eu buddsoddiad pan fydd y cwmni'n llwyddiannus. Byddwch yn aml yn clywed buddsoddwyr yn cyfeirio at lwybr ymadael, sef yr adeg pan maent yn cael enillion ar eu buddsoddiad. Gall hyn fod sawl blwyddyn ar ôl iddynt fuddsoddi yn y cwmni. Mae’r llwybrau ymadael mwyaf cyffredin yn digwydd trwy gyfrwng gwerthiannau masnach, rhestru cyfranddaliadau neu werthiannau i fuddsoddwr neu gronfa arall. Mae'n holl bwysig bod yn glir ynghylch beth yw strategaeth ymadael ddewisol eich buddsoddwr o'r cychwyn cyntaf un - a hefyd yr amserlenni y maent yn gweithio iddynt. Mae alinio uchelgais ac amcanion ochr yn ochr yn allweddol.

Mae cyllid ecwiti fwyaf addas ar gyfer busnesau twf uchel sydd angen arian parod i gyflymu eu cynlluniau twf, neu fusnesau technoleg yn ystod eu camau cynnar na all gefnogi ad-daliadau benthyciadau tra fo'u busnes yn datblygu.

Mae yna lawer o ffynonellau cyllid ecwiti. Gall hyn gynnwys sefydliadau fel Banc Datblygu Cymru, teulu neu ffrindiau, angylion busnes neu fuddsoddwyr preifat, llwyfannau ariannu torfol ecwiti, cronfeydd buddsoddi preifat, swyddfeydd teuluol, neu sefydliadau cyfalaf menter eraill. Mae'n werth nodi bod gan y banc datblygu, y gallu i gynnig ecwiti, neu fenthyciadau neu gyfuniad o'r ddau.

Gall y banc datblygu fuddsoddi o £1,000 i £5 miliwn ar y tro mewn busnesau yng Nghymru i ddechrau, cryfhau a thyfu. Mae buddsoddiad ecwiti o £50,000 i £5 miliwn ar gael i fusnesau sefydledig er mwyn iddynt wneud newid sylweddol yn eu twf a gallant ddarparu cyllid sbarduno ar gyfer sefydlu busnesau technoleg newydd cyn-refeniw. Maent hefyd yn cynnig benthyciadau o £1,000 - £5 miliwn. Bydd y banc datblygu yn cyd-fuddsoddi ochr yn ochr â banciau, arianwyr torfol, grantiau, buddsoddwyr a benthycwyr eraill.

Gallwch hefyd ddefnyddio Buddsoddiadau Angylion Cymru, y BVCA neu UKBAA i ddod o hyd i fuddsoddwyr a chronfeydd yn eich ardal chi. Mae'r rhan fwyaf o angylion busnes yn buddsoddi rhwng £10,000 a £750,000. Fel arfer maent yn buddsoddi mewn busnesau newydd neu fusnesau ifanc sydd angen ariannu gweithgareddau fel datblygu cynnyrch neu ehangu'r farchnad - ond gallant hefyd fod â diddordeb mewn busnesau sefydledig sydd â strategaeth dwf dda. Gallant wneud penderfyniadau buddsoddi yn gyflym ond bydd angen iddynt weld bod gennych gynllun busnes da cyn iddynt ymrwymo.

Mae rhai perchenogion busnes yn credu, trwy werthu cyfranddaliadau yn eu busnes, eu bod nhw'n rhoi rhywbeth i ffwrdd. Ond, 'dydych chi ddim yn rhoi cyfranddaliadau eich busnes i ffwrdd - rydych chi'n eu gwerthu ac yn cael gwerth yn ôl. Mewn gwirionedd, trwy werthu cyfran yn eich busnes nawr, efallai y byddwch chi'n gallu cyflymu'ch cynlluniau twf a chreu busnes llawer mwy, sy'n fwy proffidiol.

Felly, y cwestiwn ddylech chi ei ofyn i chi eich hun yw a ydych chi'n barod i werthu cyfran o'ch cwmni nawr er mwyn cael cyfran o fusnes llawer mwy yn y dyfodol - a chyflawni'ch uchelgais ar gyfer y busnes? Mae'n rhaid i chi hefyd ystyried a ydych yn barod i ymrwymo i'r berthynas y mae buddsoddiad ecwiti yn ei olygu. Bydd eich buddsoddwr yn 'berchennog' ar y busnes ac weithiau fe all fod yn anodd i bobl sydd wedi rhedeg eu busnesau eu hunain heb orfod bod yn atebol i unrhyw un arall.

Rhaid ichi hefyd gofio y gall arian ecwiti gymryd mwy o amser i'w godi na mathau eraill o fuddsoddiad oherwydd gall y broses fod yn gymhleth. Bydd angen i chi ganiatáu amser i ddod o hyd i'r buddsoddwr cywir ar gyfer eich busnes a thrafod y telerau. Bydd angen amser ar y buddsoddwyr i ymgymryd â'u diwydrwydd dyladwy ar eich busnes a gall yr elfennau cyfreithiol fod yn fwy cymhleth. Ac wrth gwrs, mae'n rhaid i chi barhau i redeg eich busnes ar yr un pryd. Dylech ganiatáu o leiaf tri i chwe mis ar gyfer y broses lawn - a pheidiwch â gadael i'ch llygad grwydro oddi ar y 'bêl' yn y cyfamser.

Gallwch chi helpu i gyflymu'r broses, cynyddu'ch siawns o godi buddsoddiad ecwiti a chyfyngu ar yr effaith y mae'n ei gael ar eich busnes o ddydd i ddydd trwy sicrhau eich bod chi wedi paratoi'n dda. Sicrhewch fod gennych gynllun busnes da sydd wedi cael ei ystyried yn drylwyr, ac y gallwch chi sefyll yn gyfan gadarn y tu ôl iddo. Os ydych chi'n codi swm sylweddol o gyfalaf efallai yr hoffech ymgysylltu ag ymgynghorydd cyllid corfforaethol - ond mae'n rhaid i chi yrru'r broses gan mai chi yw'r person sy'n deall y busnes orau. Gofynnwch am farn pobl eraill a fydd yn gallu profi'ch honiadau a herio eich brwdfrydedd am eich cynllun busnes. Mae'n hawdd gwneud gor-addewidion pan fyddwch chi wedi'ch cyffroi ynghylch eich rhagolygon. Mae hefyd yn werth siarad â busnesau eraill sydd eisoes wedi bod trwy'r broses. Waeth beth fo'r arian ecwiti, nid yw hyn yn beth drwg.

Mae'n bwysig dewis y buddsoddwr iawn ar gyfer eich busnes. Mae hon yn berthynas hir dymor ac fe fyddwch am wneud yn siwr bod gennych fuddsoddwr yr ydych chi’n gallu gweithio â nhw, a all ychwanegu gwerth at eich busnes, sy'n darparu mwy na dim ond arian, a rhywun sydd â'r un nod yn y pendraw.

Nid yw rhoi hwb o ddifrif i'ch busnes dyfu yn hawdd. Mae'n ymofyn amser, dyfalbarhad a chyfalaf. Fy nghyngor i yw siarad â chymaint o bobl â phosibl i weithio allan beth yw'r opsiwn gorau ar gyfer eich busnes a manteisio ar y cyngor a'r arbenigedd sydd ar gael gan sefydliadau megis Banc Datblygu Cymru.