Ydych chi'n bwriadu codi buddsoddiad?

Navid-Falatoori
Uwch Swyddog Buddsoddi
Newidwyd:
Cyllid
Twf
Dechrau busnes
raising investment

O ddechrau busnes i dyfu busnes, mae sicrhau'r arian cywir yn hanfodol i gyflawni llwyddiant busnes. Mae Navid Falatoori, Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru yn rhoi ei gyngor o ar godi buddsoddiad.

Pobl angerddol

Mae pobl yn prynu gan bobl, felly, os ydych chi'n ceisio codi buddsoddiad, pobl ddylai eich blaenoriaeth gyntaf un fod. Er bod cynllun busnes cryf yn hanfodol, bydd buddsoddwyr yn bendant am weld eich angerdd a'ch brwdfrydedd, achos dyma'r cynhwysion hanfodol ar gyfer llwyddiant busnes.

Wrth i chi siarad â buddsoddwr fel Banc Datblygu Cymru er mwyn codi cyfalaf, nid dim ond ein hargyhoeddi ni fod eich cynnyrch neu'ch gwasanaeth yn mynd i gipio cyfran ystyrlon o farchnad fawr a thyfu sydd ei angen. Mae angen dangos i ni fod gennych chi a'ch tîm rheoli'r rhinweddau angenrheidiol i wneud i’r twf hwnnw'n digwydd, a hefyd bod gennych y gallu i wrthsefyll yr heriau sy'n anochel o ddigwydd ar hyd y ffordd.

Y galw o’r farchnad

Felly, am beth rydyn' ni'n chwilio amdano wrth ystyried buddsoddiad? Mae galw'r farchnad yn amlwg yn ffactor allweddol ac mae’n rhaid i'ch cynllun busnes ddangos bod cyfle go iawn i ddatblygu marchnad fel y gallwch dyfu eich busnes. Rydym yn chwilio am gyfleoedd a all ddechrau a chynyddu!

Cyfathrebu (a chyfathrebu ...)

Mae cyfathrebu da rhwng partïon hefyd yn bwysig. Nid yw cyfathrebu gwael neu araf yn edrych yn dda; mae'n bwysig dangos i fuddsoddwyr yr hyn y gallwch chi ei gynnig a dangos tystiolaeth gadarn sy'n cefnogi eich cynllun busnes.

Sicrhewch fod eich rhifau chi’n iawn

Dylai casglu a chyflwyno'r holl waith papur angenrheidiol yn amserol fod yn rhywbeth amlwg, yn yr un modd mewn gwirionedd a'r angen i gael rhagolygon ariannol cadarn. Gwnewch yn siŵr bod gennych gynigiad wedi'i ddiffinio'n glir sy'n egluro eich strategaeth fusnes a'r posibilrwydd o dwf. Ni fydd cynllun busnes sydd wedi cael ei ysgrifennu'n dda yn gwarantu buddsoddiad i chi ond fe all diffyg cynllun arwain at wrthod eich cais am arian cyllido. Mae digon o gyngor ar gael os oes angen help arnoch; mae sefydliadau fel Busnes Cymru yn cynnig gwasanaeth cymorth gwych.

Siaradwch â ni

Bydd faint o waith papur y bydd angen i chi ei gwblhau yn dibynnu ar faint y buddsoddiad. Rydym wedi treulio llawer o amser yn symleiddio ein prosesau buddsoddi i sicrhau bod ein gweithdrefnau ar gyfer gwneud cais yn syml ac yn hawdd i'w deall. Fodd bynnag, peidiwch â thanbrisio'r amser a'r ymdrech sydd ei angen i godi cyllid.

Mae gennym broses trac cyflym ar gyfer gwneud cais am fenthyciadau bach a gwirydd cymhwyster ar-lein.

Yn olaf, byddwch yn glir ynghylch eich amcanion. Mae buddsoddiad yn fargen sy'n gweithio'r ddwy ffordd. Mae angen i chi sicrhau eich bod chi'n cael yr hyn sydd ei angen arnoch gan fuddsoddwr. Efallai na fydd hyn yn ymwneud â'r arian yn unig. Mae cefnogaeth i hwyluso twf; profiad amlwg yn y diwydiant, eiriolaeth a chysylltiadau'r un mor bwysig â'r arian ei hun. Ewch ati yn y ffordd iawn a wnewch chi ddim edrych yn ôl.