Sioe Adeiladu Cymru

Mae ein tîm eiddo yn arddangos yn Sioe Adeiladu Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 10 Ebrill.

Bydd y sioe yn dod â chyflenwyr a masnachwyr at ei gilydd am ddiwrnod o ddysgu a rhwydweithio. Bydd yn gyfle gwych i weld cynhyrchion a gwasanaethau newydd, arloesol, siarad gydag arbenigwyr yn y diwydiant, a chael cyngor a chymorth i helpu'ch busnes i dyfu.

Bydd aelodau o'n tîm eiddo wrth law i drafod y benthyciadau preswyl, defnydd cymysg ac eiddo masnachol tymor byr sydd ar gael i ddatblygwyr bach a chanolig yng Nghymru. Mae'r benthyciadau wedi'u teilwra hyn yn amrywio o £150,000 - £5 miliwn, gan roi'r cymorth ariannol sydd ei angen ar ddatblygwyr i symud eu prosiectau ymlaen.

Cofrestrwch ar gyfer eich tocyn am ddim yn fan hyn.  

Pwy sy'n dod

Karl-Jones
Uwch Swyddog Datblygu Eiddo
Nicola-Crocker
Rheolwr Cronfa