Sioe Adeiladu Cymru Abertawe 2019

Ymunwch â ni yn Sioe Adeiladu Cymru yn Abertawe ar 23 Hydref.

Bydd y sioe yn dod â chyflenwyr a masnachwyr ynghyd ar gyfer diwrnod o rwydweithio, gydag ystod o seminarau ar gael hefyd. Bydd yn gyfle gwych i weld cynhyrchion a gwasanaethau newydd ac arloesol, siarad ag arbenigwyr yn y diwydiant, a chael cyngor a chefnogaeth i helpu'ch busnes i dyfu.

Bydd Alwyn Thomas o'n tîm eiddo wrth law i drafod y benthyciadau eiddo preswyl, defnydd cymysg a masnachol tymor byr sydd ar gael i ddatblygwyr bach i ganolig yng Nghymru. Mae'r benthyciadau hyn sydd wedi'u teilwra yn amrywio o £150,000 - £5 miliwn, gan roi'r gefnogaeth ariannol sydd ei hangen ar ddatblygwyr i symud eu prosiectau ymlaen.

Cofrestrwch i gael eich tocyn am ddim yn fan hyn. 

Pwy sy'n dod

Alwyn-Thomas
Uwch Swyddog Datblygu Eiddo