Swyddog buddsoddi / Uwch swyddog buddsoddi - Buddsoddiadau menter technoleg

Rydym am recriwtio swyddog buddsoddi / uwch swyddog buddsoddi (yn dibynnu ar brofiad) seiliedig yng Caerdydd.

Pwrpas y swydd

Mae'r swyddog buddsoddi yn gyfrifol am gyrchu a gwerthuso ceisiadau am fuddsoddiadau o gronfeydd buddsoddi Banc Datblygu Cymru, gan gyrchu yn ystod cyfnodau cynnar a chyfnodau datblygu diweddarach y farchnad gyfalaf. Gwneir buddsoddiadau o dan delerau masnachol ac yn unol â'r meini prawf buddsoddi a osodir gan y Banc Datblygu. Gellir strwythuro'r buddsoddiadau ar ffurf ecwiti, benthyciadau neu fesanîn neu gyfuniad o'r uchod a bydd y rhain yn cael eu targedu at gwmnïau sy'n seiliedig ar dechnoleg, sy'n gyfoethog mewn ED, sy'n tyfu'n gyflym.

Mae'r swyddog buddsoddi mentrau technoleg hefyd yn gyfrifol am fonitro, datblygu a gwireddu eu portffolio buddsoddi priodol.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau

  • Cyfrannu at weithrediad y Banc Datblygu fel cwmni rheoli cronfeydd proffesiynol a darparwr cyfalaf risg i fusnesau sy'n dechrau a busnesau sy'n bodoli'n barod, yn unol â thelerau cymeradwyo Llywodraeth Cymru a Chronfeydd Datblygu Rhanbarthol Ewrop (CDRhE)
  • Cyrchu, gwerthuso ac argymell cynigion buddsoddi o safon uchel i'r uwch swyddog buddsoddi, y cyfarwyddwr buddsoddi neu bwyllgor buddsoddi, pan fo'r buddsoddiad arfaethedig yn bodloni meini prawf cronfa mentrau technoleg a sefydlwyd gan BDC /DBW FM Ltd.
  • Cynnal diwydrwydd dyladwy rheoli, ariannol, ED a masnachol trylwyr a chadarn wrth ystyried cyfleoedd buddsoddi ac asesu'r risgiau sy’n berthnasol i bob buddsoddiad
  • Trafod telerau ac amodau i sicrhau'r strwythurau buddsoddi gorau posibl ar gyfer yr holl fuddsoddiadau Menter Technoleg
  • Rheoli datblygiad a chwblhad yr holl ddogfennau cyfreithiol angenrheidiol trwy gydol y broses fuddsoddi gyfan, yn unol â dogfennau a phrosesau cyfreithiol safonol y Banc Datblygu
  • Monitro eich portffolio BMT priodol, mynychu byrddau fel sylwedydd a hwyluso gyda’r gwaith o benodi Cyfarwyddwyr An-weithredol a chryfhau'r timau gweithredol fel bo'r angen. Lle bo'n briodol, gwneud buddsoddiadau dilynol mewn cwmnïau portffolio wedi iddynt gyflawni'r cerrig milltir hanfodol arfaethedig
  • Datblygu perthynas â chyd-fuddsoddwyr i sicrhau buddsoddiad amserol a pherthnasol gan drydydd parti addas ar gyfer buddsoddiadau newydd a dilynol
  • Rhoi arweiniad i a dylanwadu ar gwmnïau portffolio er mwyn darparu ymadawiadau  proffidiol ac amserol yn unol â model masnachol y gronfa
  • Lledaenu enghreifftiau o arfer gorau ar gyfer gwneud cais i'r gronfa ymysg cyflwynwyr busnes allweddol a sicrhau bod y broses ymgeisio yn cael ei mireinio a'i gwella'n barhaus er mwyn darparu'r gwasanaeth gorau posibl i gleientiaid
  • Datblygu a chynnal cysylltiadau a rhwydweithiau gyda chyflwynwyr busnes allweddol a chyfryngwyr er mwyn dod o hyd i gyfleoedd buddsoddi addas
  • Cymryd rhan a chynrychioli'r Banc Datblygu, lle bo'n briodol, mewn cyfarfodydd, seminarau, digwyddiadau a gweithgareddau ar y cyd
  • Gweithredu o fewn terfynau awdurdod dirprwyedig a chanllawiau buddsoddi gweithredol
  • Cyfrannu at farchnata / hyrwyddo'r Banc Datblygu
  • Cyfrannu at gyflawni nodau diffiniedig ac allbynnau'r gronfa yn unol â chynlluniau busnes y gronfa berthnasol
  • Cynnal a datblygu gwybodaeth dechnegol a phenodol i ddiwydiant er mwyn sicrhau arfer gorau a chydymffurfiaeth yn y maes gweithgarwch buddsoddi
  • Unrhyw dasg arall y gall rheolwr y gronfa ei diffinio i ddiwallu anghenion gweithredol y gronfa, gan sicrhau bod ymddiriedaeth a hyder buddsoddwyr y Cwmni yn cael eu cynnal bob amser.

Gwybodaeth, Sgiliau, Galluoedd a Phrofiad

Hanfodol 

  • Profiad blaenorol gyda chyfalaf menter, cyllid trosoli neu brofiad cyllid corfforaethol
  • Dealltwriaeth o bob agwedd sy'n ymwneud â buddsoddiadau ecwiti yn ystod y cyfnod buddsoddi cynnar neu'r cyfnod diweddarach
  • Profiad o gyd-fuddsoddi mewn partneriaeth gydag Angylion Busnes, Buddsoddwyr Sefydliadol, a Chronfeydd Mentrau Corfforaethol.
  • Profiad amlwg o reoli portffolio buddsoddi, gyda hanes ymadael llwyddiannus yn ddelfrydol
  • Arbenigedd amlwg yn y sectorau technoleg newydd sy'n dod i'r amlwg, ac yn ddelfrydol, yn meddu ar ddealltwriaeth fanwl o un o'r sector TGCh ehangach, gan gynnwys - Meddalwedd fel Gwasanaeth, cyfryngau digidol, telathrebu, Rhyngrwyd o Bethau (RhoB), dadansoddiadau data, meddalwedd diogelwch.
  • Sgiliau cyfathrebu, dylanwadu a rhyngbersonol cryf
  • Yn gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • Hyderus yn eich gallu eich hun i wneud penderfyniadau
  • Y gallu i flaenoriaethu a threfnu gwaith dan bwysau
  • Dealltwriaeth o'r broses trosglwyddo technoleg a masnacheiddio ED
  • Sgiliau gwerthuso a dadansoddi ariannol cryf.
  • Sgiliau TG gan gynnwys defnyddio systemau Word, Excel, PowerPoint, Rheoli Perthynas Cwsmer (RhPC).

Dymunol 

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o rôl y sector cyhoeddus mewn cyllid BBaCh
  • Dealltwriaeth o'r amgylchedd busnes rhanbarthol
  • Sgiliau cyflwyno rhagorol
  • Siaradwr Cymraeg
  • Trwydded yrru
  • Cymhwyster ôl-raddedig neu ddoethuriaeth mewn pwnc sy'n seiliedig ar wyddoniaeth neu dechnoleg megis cemeg, bioleg, peirianneg, ffiseg neu wyddor cyfrifiadura.
  • Cymhwyster cyfrifeg siartredig neu ddadansoddi buddsoddiad fel CSC (ACA), CCAS (ACCA) neu DAS (CFA)

Ymgeisiwch

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, ewch i Investment Executive (current-vacancies.com)

Dyddiad cau: Ebrill 28