Mae Banc Datblygu Cymru yn is-gwmni i Lywodraeth Cymru ac mae’n darparu cyllid cynaliadwy ac effeithiol i fusnesau a fydd o fudd i Gymru a’i phobl.
Mae Banc Datblygu Cymru wedi comisiynu Opinion Research Services (ORS), sefydliad ymchwil cymdeithasol annibynnol sydd wedi’i leoli yn Abertawe, i gynnal arolwg o fentrau bach a chanolig yng Nghymru. Pwrpas yr arolwg yw deall yn well sut mae busnesau bach a chanolig yn defnyddio banciau a chyllid allanol, a sut mae hyn wedi newid ers pandemig Covid-19.
Fel rhan o'r prosiect hwn, bydd ORS yn casglu gwybodaeth trwy arolwg ar-lein a thros y ffôn. Bydd ORS yn cysylltu â sampl dethol trwy e-bost a / neu alwad ffôn yn ystod Hydref/Gaeaf 2024.
Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig i helpu i lywio'r gwaith o ddylunio a gweithredu cynhyrchion ariannol gan Fanc Datblygu Cymru.
Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hwn yn ORS yw:
Kester Holmes
Cyfeiriad e-bost: DevBankSurvey@ors.org.uk
Os bydd cyfwelydd o ORS yn cysylltu â chi, gallwch gadarnhau pwy ydynt drwy gysylltu â ORS ar: 0800 107 7890. Mae rhagor o wybodaeth am ORS ar gael ar eu gwefan https://www.ors.org.uk/
Y cysylltiadau ar gyfer yr ymchwil hwn ym Manc Datblygu Cymru yw:
Sian Price a Liam Evans
Cyfeiriad e-bost: DirnadEconomi@bancdatblygu.cymru
Rhif ffôn ymholiadau Banc Datblygu Cymru: 0800 587 4140
HYSBYSIAD PREIFATRWYDD
Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio'ch data personol?
Tasg gyhoeddus Banc Datblygu Cymru yw’r sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol yn yr ymarfer casglu data hwn. Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Dim ond ORS fydd yn cadw eich data personol; ni chaiff unrhyw ddata personol ei rannu â Banc Datblygu Cymru.
Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Fanc Datblygu Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir ei gweithredu am ei allu i gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Bydd y wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hwn yn cael ei defnyddio i lywio’r cyflenwad o ac i gyflawni cyllid busnes yn y dyfodol.
Pa mor ddiogel yw eich data personol?
Mae gweithgareddau a systemau ymchwil ORS wedi'u hardystio'n llawn i ISO 27001:2013 a Cyber Essentials / Hanfodion Seiber. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd ORS yn defnyddio'r data hwn ac ni fydd eich manylion cyswllt byth yn cael eu rhyddhau i unrhyw bartïon eraill. Mae ORS yn cadw'n gaeth at yr holl reoliadau Diogelu Data a Chod Ymddygiad MRS. Mae gan ORS weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o dorri rheolau diogelwch data. Os bydd amheuaeth bod tor-rheolaeth o’r amodau wedi digwydd, bydd ORS yn adrodd am hyn i Fanc Datblygu Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i iddynt wneud hynny.
Banc Datblygu Cymru yw'r Rheolydd Data ar gyfer yr ymchwil. Bydd ORS fel Proseswyr Data yn dileu unrhyw ddata personol sy'n gysylltiedig â'r arolwg o fewn 3 mis i gwblhau'r prosiect, ond bydd gweddill eich ymatebion yn cael eu cadw at ddibenion ystadegol. Bydd yr holl ganlyniadau a ddarperir i Fanc Datblygu Cymru ar ffurf dienw. Bydd y data dienw hefyd yn cael ei rannu gydag Ysgol Busnes Caerdydd (rhan o gydweithrediad ymchwil Dirnad Economi Cymru y Banc Datblygu), i ddadansoddi canlyniadau’r arolwg dienw a chynhyrchu adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Dirnad Economi Cymru.