Rhanddeiliaid

Mae Dirnad Economi Cymru yn gydweithrediad ymchwil unigryw rhwng Banc Datblygu Cymru, Ysgol Busnes Caerdydd, Ysgol Busnes Bangor, y Ganolfan Ymchwil Menter, a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).

Bangor business school logo
Cardiff Business School logo
ERC logo
ONS logo
Development Bank of Wales logo

Ysgol Busnes Caerdydd sy’n arwain ar gynhyrchu’r adroddiadau chwarterol a blynyddol ar economi Cymru, BBaCh Cymru, a mynediad at gyllid.

Bydd Ysgol Busnes Caerdydd, Ysgol Busnes Bangor a'r Ganolfan Ymchwil Menter bob un yn arwain ar gynhyrchu adroddiadau pwrpasol i fynd i’r afael â chwestiynau ymchwil penodol ac amserol.

Pwrpas yr adroddiadau hyn yw ychwanegu dealltwriaeth newydd am faterion sydd a wnelo economi Cymru, darparu argymhellion polisi a sefydlu sylfaen dystiolaeth ar gyfer ymchwil pellach. Bydd yr allbynnau ymchwil yn defnyddio data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, StatsCymru, Banc Datblygu Cymru a ffynonellau data eraill.

Mae cynrychiolwyr o’r pum sefydliad yn ogystal ag o Lywodraeth Cymru yn ffurfio Grŵp Llywio Dirnad Economi Cymru sy’n llywio’r agenda ymchwil, yn pennu cwmpas ar gyfer prosiectau, ac yn adolygu ac yn cymeradwyo allbynnau ymchwil i’w cyhoeddi.

 

"Mae Dirnad Economi Cymru yn ased cenedlaethol strategol ac yn arf hanfodol ar gyfer y rhai sydd â diddordeb yn economi Cymru, gan ddarparu diweddariadau a dadansoddiadau rheolaidd ar ddata economaidd sy'n benodol i Gymru. Mae'n parhau i fod yn fecanwaith allweddol a all helpu i lywio datblygiad polisi yn y dyfodol ym maes mynediad at gyllid."

 

Y Gweinidog dros yr Economi, Vaughan Gething

 

Dewch i gwrdd â thîm Banc Datblygu Cymru

Rob-Hunter
Rob Hunter
Rob Hunter
Tîm rheoli

Mae Rob ydy'r cyfarwyddwr strategaeth, pobl a batblygu ar gyfer Banc Datblygu Cymru.

Sian-Price
Sian Price
Sian Price
Tîm strategaeth

Mae Sian yn rheolwr ymchwil a phartneriaeth yn y Banc Datblygu

Portrait of Liam Evans
Liam Evans
Liam Evans
Tîm strategaeth

Liam yw Swyddog Strategaeth ar gyfer Ymchwil a Chynhyrchion Banc Datblygu Cymru

Giles-Thorley
Giles Thorley
Giles Thorley
Bwrdd cyfarwyddwyr
Tîm rheoli

Mae Giles ydy prif weithredwr Banc Datblygu Cymru.