Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Siarter Cwsmeriaid

Ym Manc Datblygu Cymru, rydym wedi ymrwymo i ddod ag uchelgeisiau yn fyw a thanio posibiliadau ar gyfer pobl, busnesau a chymunedau yng Nghymru.

Ein cenhadaeth yw datgloi potensial economi Cymru drwy gynyddu’r cyflenwad a hygyrchedd cyllid cynaliadwy ac effeithiol.

Ym Manc Datblygu Cymru, rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth eithriadol i’n cwsmeriaid ac rydym yn cael ein harwain gan ein gwerthoedd ym mhopeth a wnawn.

Mae ein Siarter Cwsmeriaid yn adlewyrchu ein gwerthoedd craidd a ganlyn:

Cydweithrediad Doeth a Chall

  • Rydym yn cydweithio i ddod o hyd i’r ffordd orau ac mae partneriaeth yn sail i bopeth a wnawn.
  • Rydym yn nodi partneriaethau doeth a chall sy'n gweithio er budd pawb.
  • Rydym bob amser yn chwilio am gyfleoedd i arwain a rhannu ein gwybodaeth leol ac arbenigol ag eraill.

Ynni Mentergarol

  • Mae ein meddylfryd ‘mi allwn ni wneud hyn’ yn nodweddu’r ffordd yr ydym yn gwneud pethau.
  • Rydym yn ymatebol, yn effeithlon, yn barod i helpu; ac rydym yn meddwl bob amser ynghylch be y gallwn ni ei wneud, yn hytrach na'r hyn na allwn.
  • Rydym yn ddatryswyr problemau; rydym wedi'n grymuso i wneud pethau'n wahanol, addasu i rwystrau ac arloesi i ddod o hyd i atebion.

Empathi Gwrthrychol

  • Bod yn barchus, teg a thryloyw
  • Meddu ar feddwl agored a chefnogol
  • Rydym yn wyneb dynol, – mae’n hawdd dod atom a siarad â ni, rydym yn ddibynadwy, cyfeillgar ac yn barod i wrando ac wedi ymrwymo i gynhwysiant a chydraddoldeb

Cyfrifoldeb Ymwybodol

  • Rydym yn fwy na busnes cyfrifol, rydym yn defnyddio ein dylanwad dros newid cadarnhaol, rydym yn anelu at wneud y peth iawn bob amser ac yn gofalu bod y rhai sydd o'n cwmpas yn gwneud yr un peth
  • Rydym yn angerddol o blaid moeseg; yn ymgysylltu'n bwrpasol ac ymwybodol â’r ACLl 
  • Rydym yn hyrwyddo tegwch, atebolrwydd, cyfrifoldeb a thryloywder, gan osod y safonau uchaf ac ysbrydoli eraill i ddilyn ein hesiampl.

 

Rydym yn byw yn ôl ein gwerthoedd ac mae’r Siarter Cwsmeriaid yn nodi ein hymrwymiad i chi ar bob cam o’n perthynas:

Pan fyddwch yn gwneud cais am gyllid, byddwn yn:

  • Treulio’r amser angenrheidiol i ddod i ddeall eich anghenion, yn darparu unigolyn penodol i ymdrin â’ch cais a sicrhau bod gan ein timau yr arbenigedd a'r sgiliau i helpu 
  • Byddwn yn glir ynghylch y wybodaeth sydd ei hangen arnom ni i symud eich cais yn ei flaen a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y cynnydd a wneir 
  • Byddwn yn hyblyg a bydd gennym yr agwedd “mi allwn ni wneud hyn”. 
  • Byddwn yn deg, yn gyson ac yn dryloyw wrth wneud penderfyniadau 
  • Byddwn yn ymatebol ac yn onest ynghylch a allwn ni helpu, a'ch cyfeirio at opsiynau eraill os na allwn  

 

Unwaith y byddwch wedi derbyn cyllid byddwn yn:

  • Darparu rheolwr perthynas lleol pwrpasol ar eich cyfer a fydd yn gweithio gyda chi ac fe roddir y cyfle i chi gael adolygiad blynyddol i drafod eich cynlluniau
  • Rhoddir mynediad parhaus i chi at ein rhwydwaith o gyllidwyr ac arbenigwyr
  • Rhoddir cyfleoedd i chi rwydweithio a chysylltu â'n cwsmeriaid eraill

 

Mesur ein Safonau Gwasanaeth

Ein nod yw cael perthnasoedd gwaith cadarnhaol gyda'n holl gwsmeriaid a'ch rhoi chi wrth wraidd popeth a wnawn.

Mae eich profiad yn bwysig i ni ac rydym yn croesawu eich adborth i wella ein gwasanaethau a'n gweithrediadau yn barhaus. Os hoffech roi adborth i ni, cliciwch ymaneu cysylltwch â gwyb@bancdatblygu.cymru.

Os nad ydych yn hapus gyda'n gwasanaeth ac yr hoffech gwyno, darllenwch ein polisi cwynion am ragor o wybodaeth.