Dirnad Economi Cymru

Productivity heroes
Productivity heroes
Arwyr Cynhyrchiant yng Nghymru: Pwy ydyn nhw a pam maen nhw'n bwysig
22 Medi 2026
Dyma adroddiad diweddaraf Dirnad Economi Cymru, sy’n canolbwyntio ar Arwyr Cynhyrchiant yng Nghymru.
Mae’r data diweddaraf yn dangos bod gan Gymru 1,732 o gwmnïau Arwyr Cynhyrchiant yn 2024-25, sef 4.1% o BBaChau sefydledig. Er bod y nifer wedi gostwng ers brig eithriadol 2022-23, cynhyrchodd y grŵp £6.04bn mewn trosiant, crewyd dros 5,200 o swyddi a chynyddodd cynhyrchiant llafur tua 24%.
Gweld yr adroddiad

Displaying Reports and Figures
Displaying Reports and Figures
Adroddiad blynyddol
09 Medi 2026
Dyma adroddiad blynyddol Dirnad Economi Cymru ar gyfer 2025/26. Mae’r adroddiad yn adolygu’r amodau economaidd diweddar sy’n berthnasol i ddatblygiad BBaChau yng Nghymru. Mae’n tynnu sylw at barhad yr heriau sy’n cyfyngu ar economi’r DU a Chymru, gan arwain at ragolygon twf isel a lefelau isel o hyder ymhlith BBaChau. Mae amodau’r farchnad lafur wedi gwanhau; mae anweithgarwch economaidd yn parhau’n gymharol uchel yng Nghymru, ac mae gweithgarwch adeiladu ac allforion nwyddau yn parhau’n wan.

Mae mynediad at gyllid wedi gwella, gyda mwy o argaeledd credyd a lefelau uwch o fenthyca i fusnesau bach, er bod costau benthyca wedi cynyddu ychydig. Yn y cyd-destun hwn, mae Banc Datblygu Cymru yn parhau i chwarae rôl allweddol.

Wales
Wales
Cynllunio olyniaeth perchnogaeth BBaCh
16 July 2026
Comisiynodd Dirnad Economi Cymru Ysgol Busnes Caerdydd i gynnal adolygiad o gynllunio olyniaeth perchnogaeth BBaCh yng Nghymru.

Mae'r adroddiad yn dwyn ynghyd ddadansoddiad newydd o faint yr her olyniaeth, ochr yn ochr â mewnwelediadau o gyfweliadau â busnesau a rhanddeiliaid, er mwyn deall yn well sut mae trawsnewidiadau perchnogaeth yn cael eu trin ar hyn o bryd ar draws BBaCh yng Nghymru.

Adroddiad chwarterol
21 Mai 2026
Dyma drydydd adroddiad chwarterol Dirnad Economi Cymru ar gyfer 2025/26. Mae'r adroddiad yn adolygu amodau economaidd diweddar sy'n berthnasol i ddatblygiad BBaChau yng Nghymru ochr yn ochr â gweithgarwch buddsoddi Banc Datblygu Cymru yn Ch3 2025/26.

Mae'n tynnu sylw at ansicrwydd byd-eang a domestig cynyddol yn dilyn pwysau geo-wleidyddol, gydag amodau gwannach yn y farchnad lafur, anweithgarwch economaidd uwch a sector adeiladu Cymru yn parhau i grebachu.

Mae hyder BBaCh yn parhau i fod yn isel, er bod mwy o fusnesau newydd wedi’u sefydlu na rhai wedi cau, a bod gwerth allforion wedi cynyddu ychydig. Gwellodd mynediad at gyllid ychydig, gyda symiau benthyca BBaCh uwch er gwaethaf costau benthyca cynyddol.

05 Mawrth 2026
Dyma ail adroddiad chwarterol Dirnad Economi Cymru ar gyfer 2025/26. Mae'r adroddiad yn adolygu data economaidd sy'n berthnasol i ddatblygiad BBaCh yng Nghymru ac yn crynhoi gweithgareddau buddsoddi Banc Datblygu Cymru ar gyfer ail chwarter 2025/26.

Mae'r adroddiad yn amlinellu cynlluniau buddsoddi mawr ar gyfer Cymru y disgwylir iddynt arwain at weithgarwch economaidd newydd yng Nghymru yn ystod 2026, ar adeg pan fo marchnadoedd llafur y DU yn ymddangos yn gwanhau. Mae hefyd yn tynnu sylw at gynnydd mewn benthyca i BBaCh gan fanciau stryd fawr ac adlam yn sector adeiladu Cymru, er ei fod yn dal i fod ar ei hôl hi o'i gymharu â'r DU yn ehangach.

Tags

Twf allbwn arwyr Cynnyrchiant yng nghymru