Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Cyllid busnes cynaliadwy ac effeithiol i gwmnïau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, neu sy’n barod i adleoli.

Nid yw cychwyn eich busnes eich hun yn hawdd ond mae Banc Datblygu Cymru wir wedi mynd allan o’u ffordd i wneud yn siŵr ein bod ni wedi cael ymdrech wirioneddol i roi pethau ar waith ac wedi rhoi’r dechrau gorau posibl i ni.

Paul Thomas, Sole Mate

£778m
Buddsoddiad uniongyrchol i fusnesau Cymru
£531m
Buddsoddiad ar y cyd gan y sector breifat
41,700
Swyddi a gefnogwyd yn economi Cymru
£1.66bn
Cyfanswm yr effaith lwyr ar economi Cymru

Cyllid hyblyg i weddu i'ch busnes

Benthyciadau a buddsoddiad i ddechrau neu ariannu blynyddoedd cynnar eich cwmni.

  • Micro fenthyciadau o £1,000 - £100,000
  • Benthyciadau ac ariannu gydag ecwiti o £100,000 - £10 miliwn

Edrychwch ar ein tudalen dechrau busnes am ragor o wybodaeth.

Benthyciadau a buddsoddiadau i gryfhau a thyfu eich busnes.

  • Benthyciadau trac cyflym £1,000 - £50,000
  • Micro fenthyciadau £1,000 - £100,000
  • Benthyciadau ac ariannu gydag ecwiti o £100,000 - £10 miliwn

Edrychwch ar ein tudalen tyfu busnes am ragor o wybodaeth. 

Cyllid olyniaeth ar gyfer unrhyw ddarpar brynwr sy'n bwriadu caffael busnes. 

  • Busnes yn prynu busnes arall
  • Tîm rheoli sy'n prynu'r busnes y maent yn ei redeg
  • Tîm rheoli yn prynu i mewn i fusnes arall

Gwybod mwy am olyniaeth a chaffael

Cyfalaf sbarduno a thwf ar gael ar gyfer busnesau sy'n seiliedig ar dechnoleg.

  • Cyllid sbarduno (ecwiti) ar gyfer busnesau newydd technoleg cyn-refeniw a deilliannau
  • Pecynnau benthyg ac ecwiti ar gyfer busnesau cyfnod cynnar a sefydledig sy’n seiliedig ar dechnoleg      

Darganfyddwch sut y gallwn ni gefnogi busnesau sy'n seiliedig ar dechnoleg 

Benthyciadau tymor byr yn dechrau o £150,000 ar gyfer prosiectau eiddo masnachol hyfyw yng Nghymru

  • Datblygiadau tai newydd
  • Datblygiadau swyddfeydd, diwydiannol a warws newydd
  • Prosiectau ail-osod

Darganfyddwch sut y gallai ein tîm eiddo eich cefnogi chi.
 

Waeth os ydych chi’n cychwyn ar daith ddatgarboneiddio eich busnes neu’n parhau â hi, mae ein Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd yn cynnig pecyn cyllid â chymhelliant i gefnogi eich busnes.

Cynaliadwyedd i fusnesau Cymru

Cefnogi twf cynaliadwy, y newid i sero net ac economi Gymreig wyrdd gref drwy’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd

Darganfod mwy