Rob Hunter

Fi yw cyfarwyddwr strategaeth, pobl a datblygu Banc Datblygu Cymru. Rwy’n arwain y cwmni ym maes cynllunio strategol a chodi arian yn y dyfodol. 

Cyllid cyhoeddus yw fy arbenigedd ac rwyf wedi dal nifer o swyddi uchel eu proffil yn y Weinyddiaeth Amddiffyn, lle’r oeddwn yn gyfrifydd arweiniol ym maes creu a gwerthu QinetiQ plc yn ogystal â chreu’r Labordai Technoleg a Gwyddoniaeth Amddiffyn.

Ymunais â Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru fel cyfarwyddwr cyllid a rhaglenni, cyn dod yn gyfarwyddwr cyllid ar gyfer Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru. Rwyf wedi bod yn ymwneud yn agos â gwneud ceisiadau am arian, gan gynnwys Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru, Datblygu Eiddo a Chronfeydd Twf Cyfalaf.

Rwyf wedi cymhwyso’n llawn fel cyfrifydd rheoli, ac rwyf wedi bod yn aelod o banel buddsoddi Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ar gyfer Cronfa Twf Economaidd Cymru. Rwyf hefyd wedi ymgymryd â sawl rôl fel cyfarwyddwr, gan gynnwys bod yn Gadeirydd Cwmni Daliannol Maes Awyr Caerdydd.