Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Liam Evans

Ymunodd Liam â Banc Datblygu Cymru yn 2015 fel rhan o Raglen Graddedigion Gwasanaethau Ariannol Cymru. Ef yw arweinydd y Banc Datblygu ar ddata ar gyfer Dirnad Economi Cymru. Mae Liam wedi gweithio ar achosion busnes ar gyfer dros £1 biliwn o gronfeydd buddsoddi ac mae ef wedi arwain ymchwil ar fynediad i wasanaethau ariannol, dadansoddi effaith buddsoddi a phrosiectau polisi cyhoeddus.

Mae gan Liam radd mewn Cysylltiadau Rhyngwladol a Hanes Modern o Brifysgol Abertawe ac MSc mewn Rheoli Gwasanaethau Ariannol o Brifysgol De Cymru.