Giles Thorley

Cyn ymuno â Banc Datblygu Cymru, roedd Giles yn bartner yng nghwmni ecwiti preifat TDR Capital LLP gan ganolbwyntio ar gychwyn cytundebau. Cyn hynny, treuliodd naw mlynedd gyda Punch Taverns plc – y flwyddyn gyntaf fel cadeirydd, ac yna fel prif weithredwr yn dilyn cynnig cyhoeddus cychwynnol (IPO) y busnes.

Bu’n gyfarwyddwr anweithredol gydag Esporta, Ducati SpA Tragus Holdings, TUI Travel plc, Incorpro Ltd, D&D London a Matthew Clark Wholesale Ltd. Ar hyn o bryd, Giles yw Cadeirydd ZipWorld plc. Mae hefyd yn gweithredu fel ymgynghorydd/angel buddsoddi ar gyfer nifer o fusnesau newydd; ac mae’n ymddiriedolwr ers tro gyda’r Rona Sailing Project.

Mae gan Giles radd yn y gyfraith o Brifysgol Llundain a chymhwysodd fel bargyfreithiwr yn 1990.