Pwy yw buddsoddwyr angel?

Mae buddsoddwyr angel yn defnyddio eu cyfoeth personol i gefnogi twf busnesau bach addawol. Trwy Angylion Buddsoddi Cymru, mae buddsoddwyr yn helpu i lunio dyfodol busnesau Cymru tra’n ennill elw trawiadol o bosibl ar eu buddsoddiad.

 

Rwy’n ddiolchgar i fod yn rhan o Angylion Buddsoddi Cymru, gan gefnogi twf a llwyddiant busnesau arloesol Cymru. Fel buddsoddwr arweiniol, rwy’n gallu cydweithio â buddsoddwyr a mentergarwyr o’r un anian, a harneisio grym arian cyfatebol drwy'r Gyd-gronfa Angylion er mwyn cael yr effaith fwyaf bosibl, a meithrin busnesau cyffrous.

Huw Bishop, buddsoddwr arweiniol

Cyfleoedd i fuddsoddwyr angel

Rydym yn darparu gwasanaeth personol ar gyfer angylion busnes a buddsoddwyr profiadol sy'n chwilio am gyfleoedd buddsoddi cadarn. Trwy ein platfform unigryw, fe welwch amrywiaeth o gyfleoedd buddsoddi 'rheoledig ansawdd' a ddewiswyd yn ofalus.

Byddwch hefyd yn cael mynediad unigryw i weminarau chwarterol gyda buddsoddwyr ac arbenigwyr yn y diwydiant.

Byddwch yn rhan weithredol o rwydwaith buddsoddwyr proffesiynol o ansawdd uchel, gyda dros 300 o fuddsoddwyr yn cymryd rhan. Archwiliwch 'arfer gorau' mewn strategaethau buddsoddi a chyfleoedd rhwydweithio o safon gydag unigolion eraill sydd â gwerth net uchel.

Os ydych yn newydd i fuddsoddi, mae gennych gyfle i ddysgu oddi wrth fuddsoddwyr profiadol sy'n rhan o'n rhwydwaith eang, a'u cysgodi

Gallech fod yn gymwys i gael buddion rhyddhad treth ac eithriadau trwy gyfleoedd cymeradwy EIS a SEIS. Gallwch ddarllen mwy am fanteision EIS a SEIS yn ein sesiwn Holi ac Ateb gyda'r buddsoddwr Patrick Nash.

Gallwch wneud cais am gyd-fuddsoddiad o Gronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru; sydd ar gael i syndicatiaid o fuddsoddwyr sy’n ceisio cyd-fuddsoddi mewn BBaChau yng Nghymru, mae’r gronfa’n cefnogi creu syndicatiaid a rhwydweithiau angylion ledled Cymru drwy ddarparu benthyciadau ac ecwiti hyd at £250,000.

Atebion i’ch cwestiynau

Mae buddsoddwyr angel yn aml yn unigolion gwerth net uchel, gyda phrofiad busnes neu broffesiynol cryf. Yn aml, maent yn fentergarwyr llwyddiannus neu'n gyn-fentergarwyr eu hunain, neu maent wedi dal swyddi gweithredol mewn cwmnïau mawr.

I ddod yn fuddsoddwr angel bydd arnoch angen incwm blynyddol o £100,000+ neu asedau net gwerth £250,000+ (heb gynnwys eich cartref neu bensiwn).

Mae angylion busnes Angylion Buddsoddi Cymru yn buddsoddi mewn busnesau yng Nghymru yn gyfnewid am gyfran ecwiti. Yn ogystal â gwobrau ariannol, gall angylion busnes ddewis chwarae rhan weithredol yn eu buddsoddiad.

Ar ôl anfon eich manylion trwy ein ffurflen cysylltu â ni, byddwch yn cofrestru ar ein platfform buddsoddi ac yn cadarnhau eich statws fel Unigolyn gwerth net uchel neu fuddsoddwr soffistigedig hunan-ardystiedig.

Mae ein rheolwyr rhanbarthol yn defnyddio eu harbenigedd busnes i sicrhau bod ansawdd cyfleoedd yn cael eu gwirio cyn eu cyflwyno i'n haelodau a fyddai'n debygol o fuddsoddi.

Mae cyfleoedd buddsoddi yn cael eu hychwanegu’n rheolaidd at ein platfform buddsoddi y gall buddsoddwyr ei weld wrth eu pwysau. Mae ein fforymau buddsoddi yn rhoi'r cyfle i fusnesau 'gyflwyno' i ddarpar fuddsoddwyr.

Ymuno â'n rhwydwaith angel

pc icon

Cam 1

Llenwch ein ffurflen gyswllt a byddwn mewn cysylltiad

press icon

Cam 2

Byddwch yn cael mynediad i'n platfform buddsoddi unigryw

people icon

Cam 3

Dewch o hyd i gyfleoedd buddsoddi cyffrous

Syndicadau

Rydym yn cefnogi syndicadau angylion (a reolir gan fuddsoddwr arweiniol a gymeradwywyd ymlaen llaw) gydag arian cyfatebol o'n Cronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru gwerth £8 miliwn.

Trwy fod yn rhan o syndicet, gallwch rannu'r risgiau, rhannu'r gwaith a sicrhau'r enillion mwyaf posibl. Gydag ychydig bach o fuddsoddiad gennych chi eich hun, gallwch gymryd rhan mewn bargeinion mwy, neu nifer fwy o fargeinion. Mae hyn yn golygu nad oes angen i chi fod â gwerth net uchel iawn i gymryd rhan, a gallwch ddad-risgio ac arallgyfeirio trwy gael sawl buddsoddiad.

 

Bydd angen i Fuddsoddwyr Arweiniol wneud cais yn uniongyrchol i ni i ddechrau i gael eu cymeradwyo (derbynnir 2 mewn blwyddyn). Defnyddiwch ein ffurflen 'cysylltu â ni' i roi pethau ar waith.

Unwaith y bydd cais yn llwyddiannus, bydd angen i'r Prif Fuddsoddwr wedyn ffurfio syndiciad gyda buddsoddwyr profiadol eraill (rhaid i'r syndicadau gynnwys o leiaf tri o fuddsoddwyr gan gynnwys yr un arweiniol).

Unwaith y bydd syndiciad wedi'i ffurfio, gallant wneud cais am gyd-fuddsoddiad. Bydd y Prif Fuddsoddwr a'r cwmni'n cwblhau ffurflen gais a ddarperir iddynt (ynghyd â'r dogfennau chwilio perthnasol) er mwyn ei chyflwyno. Bydd y syndiciad wedi cyflawni pob dyletswydd diwydrwydd dyladwy ar y cwmni / prosiect cyn iddynt eu cyflwyno i ni.

Wedyn, caiff eich cais ei ystyried ac os caiff ei gymeradwyo bydd cyfreithwyr yn cael eu cyfarwyddo ar sail cyd gynrychiolaeth, pro rata, parri passu. Bydd yr arian cyllido yn cael ei anfon uniongyrchol at y cyfreithwyr yn unig, ar yr amod eu bod wedi derbyn yr arian gan y buddsoddwyr.

Mae Cronfa Cyd-Fuddsoddi Angylion Cymru yn gronfa oddefol gwerth £8 miliwn, sydd â'r nod o annog mwy o fuddsoddiad angylion gweithredol. Rheolir gan Fanc Datblygu Cymru, mae'r gronfa cyd-fuddsoddi pum mlynedd yn cymryd rhan mewn adegau buddsoddi syndicet trwy gyd-fuddsoddi benthyciadau ac ecwiti hyd at £250,000, ochr yn ochr â syndicetiau angel a buddsoddwr arweiniol. Mae Angylion Buddsoddi Cymru yn mynd ati i gydlynu’r gweithgaredd hwn ar ran Banc Datblygu Cymru.

  • Ecwiti a benthyciadau o £25,000 - £250,000
  • Y mwyafswm ar gael ar gyfer unrhyw syndicad unigol yw £700,000
  • Ni ddylai aelodau o'r syndiciad fod â buddsoddiadau presennol yn y cwmni / prosiect
  • Bydd teulu neu ffrindiau aelodau'r syndiciad, sy'n ymwneud â'r cwmniau / prosiectau, yn cael eu hystyried fel rhai sydd â gwrthdaro buddiannol
  • Fel cyd-fuddsoddwr, gallwn gyfrannu hyd at uchafswm o 50% o'r holl fargen.

Anfonir ffurflen gais fer at Fuddsoddwyr Arweiniol i'w chwblhau ac efallai y cânt eu gwahodd am gyfweliad. Cysylltwch â ni i ddarganfod mwy, ac edrychwch ar erthygl buddsoddwr angel profiadol, Nelson Gray am fanteision syndiceiddio.

Ail fuddsoddiad syndiced ym mentergarwyr y genhedlaeth nesaf

Mae syndicet o 10 angel busnes wedi gwneud buddsoddiad dilynol yn 2B Enterprising o Abertawe, y cwmni sy'n darparu rhaglen addysg fenter ddwyieithog ar gyfer ysgolion cynradd.

Darganfod mwy