Manteision syndiceiddio: trafodaeth ag angel buddsoddi profiadol, Nelson Gray

Newidwyd:
Angylion busnes
Ecwiti
building network

Fel angel buddsoddi, un o’r penderfyniadau pwysicaf y bydd rhaid i chi ei wneud yw dewis a ddylech fuddsoddi ar eich pen eich hun neu gydag eraill mewn syndicet.

Mae syndiceiddio’n cael ei ystyried fel y model arfer gorau ar gyfer angylion buddsoddi ar hyn o bryd. Yn ôl arolwg a gomisiynodd Banc Busnes Prydain, roedd bron i 4 o bob 5 angel busnes wedi buddsoddi fel rhan o syndicet.

 

Cawsom sgwrs â Nelson Gray, sy’n angel buddsoddi profiadol mewn busnes ynghyd â siaradwr cyhoeddus ac arweinydd meddwl sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol, er mwyn deall y pwnc. Mae Nelson Gray yn aelod o syndicadau angylion yn yr Alban ac UDA, mae wedi buddsoddi yn bersonol mewn dros 50 o gwmnïau ac mae wedi llwyddo i ymadael â deg ohonynt gydag enillion lluosog rhwng 1.2x a 92x.  

Nawr yn y broses buddsoddi, mae’n hoffi canolbwyntio ar y camau ar ôl fuddsoddi, adeiladu gwerth entrepreneuraidd, diogelu cyllid dilynol sydd o fantais i’r angylion, a hybu proses gadael. Fodd bynnag, mae bod yn llwyddiannus yn y cam yma’n dibynnu ar a oes sylfaen gadarn i dyfu’r cwmni, ac oherwydd hynny fe ddywedodd Nelson Gray wrthym na fyddai’n gwneud buddsoddiad angel ar ei ben ei hun byth eto. Dyma’r rhesymau pam:

 

Yn 1996, fe wnes i fy muddsoddiad angel cyntaf ar fy mhen fy hun ac roedd yn llanast llwyr. Ar y pryd, roeddwn yn meddwl fy mod yn glyfar iawn oherwydd fy mod i wedi gwerthu fy musnes ac yn meddwl fy mod i’n gwybod popeth roedd angen i mi ei wybod.  Brwydrais i wneud y cytundeb ar fy mhen fy hun, ond doeddwn ddim yn deall beth oedd buddsoddiad angel yn ei olygu.

Yn ffodus, rwyf wedi dysgu ambell i beth ers hynny. Mae bod yn angel buddsoddi ar eich pen eich hun yn anodd. Mae’n rhaid i chi ddod o hyd i’r bargeinion, gwneud yr holl waith caled, y diwydrwydd dyladwy, y negodi a delio a’r cyllid. Ac ar ôl gwneud yr holl waith, dim ond chi sy’n eistedd wrth y bwrdd gyda'r sylfaenydd. Does neb arall yno i chi allu troi atyn nhw a gofyn “ai fi sy’n meddwl neu ydy’r sylfaenydd yn anghywir?”, ac nid oes neb yno i ddweud wrthych chi mai chi sy’n anghywir a bod y sylfaenydd yn siarad synnwyr.

Dyma pam mae’n anodd. Un o’r ffyrdd rydych yn gwneud arian - os ydych eisiau gwneud arian fel buddsoddwr - yw drwy ddefnyddio’r dull portffolio.  Mae buddsoddwyr amhrofiadol yn ceisio llwyddo ar eu pen eu hunain; maen nhw’n rhoi gormod o’u harian i mewn i nifer fach o fuddsoddiadau - dau, tri neu bedwar ar y mwyaf. Mae hynny’n ddychrynllyd wrth ystyried bod 70% o gwmnïau sy’n cael eu cefnogi gan angylion yn UDA, sef marchnad cyfalaf mwyaf datblygedig y byd, yn methu â gwneud elw cyfalaf. Felly i wneud arian, mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r dull portffolio a gwneud o leiaf 10 - 20 buddsoddiad dros gyfnod o bum mlynedd.

Dydw i ddim yn credu eich bod chi’n gallu gwneud hynny ar eich pen eich hun.  Rydych chi angen pobl eraill i’ch helpu chi i ddod o hyd i’r bargeinion.  Rydw i’n meddwl byddech chi’n haerllug i gredu bod gennych chi’r holl sgiliau sydd eu hangen arnoch i helpu, i gefnogi ac i fentora 10-20 o gwmnïau cwbl wahanol sydd mewn sectorau gwahanol. Rydw i’n dibynnu ar y bobl yn fy syndicadau.

Pan nad oes gennyf wybodaeth am y diwydiant, mae’n gêm tîm lle bydd un buddsoddwr gyda’r cwmni yn ystod y misoedd neu’r blynyddoedd cyntaf. Yna, efallai bydd rhywun sydd ag ychydig mwy o brofiad corfforaethol a gwybodaeth am weithgynhyrchu ac ymchwilio yn ymuno â’r syndicet. Dydw i ddim yn gallu gwneud y gwaith hynny i gyd ar fy mhen fy hun, felly dyna pam rwy’n credu bod syndicetio’n bwysig iawn! 

Hefyd, os ydych yn buddsoddi ar eich pen eich hun, mae’n rhaid i chi fuddsoddi’r holl arian eich hun.  Yn aml iawn, bydd y cwmni’n dweud “Rydw i eisiau hanner miliwn o bunnoedd i allu ariannu’r rownd yma”, ond does neb yn dweud “ni fydd yn cymryd hanner miliwn i fynd o sero i allu gadael y cwmni, bydd yn cymryd llawer iawn mwy na hynny”.  Drwy fod yn rhan o syndicet rwy’n gallu cael sylfaen cyfalaf llawer mwy eang.

Gyda’r grwpiau rydw i’n rhan ohonynt yn yr Alban, rydym fel arfer yn gallu creu tua £4 -5 miliwn dros gyfnod o bump i wyth mlynedd, a bydd y swm hwnnw’n ein galluogi ni i ymadael a chael elw sylweddol.  Mae’n costio £4 miliwn i fynd â thechnoleg i’r farchnad – sef dros 10-15 cytundeb. Yn syml, dydw i ddim yn ddigon cyfoethog i wneud y rhain ar fy mhen fy hun, ac ni fyddwn yn gwneud buddsoddiad angel unrhyw ffordd arall nawr.

 

Angylion Buddsoddi Cymru

Lansiodd Angylion Buddsoddi Cymru ym mis Mai 2018, ac mae’n helpu i ehangu’r gymuned o angylion yng Nghymru gan gysylltu entrepreneuriaid Cymru sy’n chwilio am gyllid ac arbenigedd gydag angylion busnes a syndicadau. Rydyn ni’n helpu’r syndicadau angylion (a reolir gan brif fuddsoddwr sydd wedi cael ei gymeradwyo’n flaenorol) gydag arian cyfatebol o’n Cronfa cyd-fuddsoddi Angylion Cymru o £8 miliwn.

Drwy fod yn rhan o syndicet, gallwch rannu’r risgiau hyn, rhannu’r gwaith a sicrhau’r elw gorau posibl. Gyda dim ond buddsoddiad bach gennych chi, gallwch gymryd rhan mewn cytundebau mwy, neu mewn mwy o gytundebau. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi fod â gwerth net ofnadwy o uchel i gymryd rhan, ac fe allwch leihau’r risg a chynyddu amrywiaeth drwy wneud sawl buddsoddiad. 

Ewch i Angylion Buddsoddi Cymru i ddysgu mwy am ymuno â’r rhwydwaith o angylion mwyaf Cymru.

Be' nesaf?

Ymunwch â'r rhwydwaith Angylion mwyaf yng Nghymru, sy'n cysylltu buddsoddwyr profiadol â busnesau sy'n chwilio am fuddsoddiad preifat.

Cysylltu â ni